Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cynnwys sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai am flwyddyn ariannol 2023/24 (yn amodol ar archwiliad).

 

Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2023/24 bellach wedi cael eu cau i bob pwrpas, a chafodd y Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau ategol eu cyflwyno i Archwilio Cymru ar 25 Mehefin, a oedd o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd bryd hynny.  Cafodd y gwaith hwn effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

Roedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Roedd diffyg gweithredol o £1.446 miliwn, a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.979 miliwn) o’r ffigwr diffyg o £2.445 miliwn a adroddwyd ym Mis 10.
  • Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 yn £2.972 miliwn (ar ôl ystyried y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol, gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o Gyllideb 2024/25).

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.315 miliwn yn is na’r gyllideb a oedd yn newid ffafriol o £0.773 miliwn ers y ffigwr a adroddwyd ym Mis 10.
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.5129 miliwn.

 

Yn ystod y flwyddyn ariannol, nodwyd £2.144 miliwn o wariant gohiriedig ac fe’i dadansoddwyd fesul gwasanaeth yn Atodiad 2. Byddai her gadarn ar gyfer y llinellau a’r ymrwymiadau cyllidebol yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf yn 2024/25, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

            Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ar ôl ystyried y sefyllfa derfynol a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol, fod y lefel derfynol o Gronfa Wrth Gefn At Raid y Cyngor yn £2.972 miliwn ar 31 Mawrth 2024, gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o gyllideb 2024/25, ac roeddent i’w gweld yn Atodiad 4. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd yr holl gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu a’u herio dros yr haf, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol a’u hangen ar yr un lefel.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 (yn amodol ar archwiliad);

 

(b)          Bod y Cabinet yn nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai (yn amodol ar archwiliad); a

 

(c)          Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ceisiadau dwyn ymlaen, fel yr amlinellir ym mharagraff 1.13.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: