Manylion y penderfyniad

Digital Strategy – Audit Wales Review, Recommendations and Proposed Actions

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Cyflwyno canlyniad yr archwiliad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor, er mwyn cael cymeradwyaeth i’r cynllun gweithredu arfaethedig mewn ymateb i argymhellion gan Archwilio Cymru.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn nodi’r canlyniad yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ar strategaeth ddigidol y Cyngor drwy gydol haf 2023, lle bu i’r archwilwyr adolygu’r holl ddogfennau perthnasol a chyfweld â swyddogion allweddol ac Aelodau Cabinet. Prif ffocws yr archwiliad oedd i ba raddau y cafodd y Strategaeth Ddigidol ei datblygu yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a thrwy hynny wneud yn si?r y byddai’n helpu i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau’r Cyngor.

 

Roedd yr Adroddiad Terfynol wedi’i ailgyflwyno i’r Cyngor gyda phedwar argymhelliad allweddol, er mwyn helpu i sicrhau gwerth am arian. Roedd y swyddogion wedi adolygu’r argymhellion ac wedi pennu camau gweithredu arfaethedig i’w cymeradwyo gan y Cabinet, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y strategaeth ddigidol bresennol (Sir y Fflint Ddigidol 2021-2026) yn cynnwys profiadau, twf, uchelgais a’r hyn y mae’r Cyngor wedi’i ddysgu ers ei chyhoeddi gyntaf yn 2016 a bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni’r nodau a amlinellir, a oedd, ar adeg cyflwyno’r strategaeth, yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i ddarpariaeth ac argaeledd gwasanaethau’r Cyngor i breswylwyr, gyda ffocws yn y lle cyntaf ar gynyddu lefel y cyfleoedd hunanwasanaeth ar gyfer preswylwyr. 

 

Cyflwynwyd y Cynllun Gweithredu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 19 Gorffennaf, ac nid oedd unrhyw adborth i’w rannu â’r Cabinet.   Mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu, defnyddiwyd dull pragmataidd i nodi pa argymhellion fyddai’n gallu ychwanegu gwerth i’r Cyngor fel sefydliad.  

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad terfynol gan Archwilio Cymru a'r ymateb gan y Cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynllun gweithredu.

Awdur yr adroddiad: Lisa McQuaide

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: