Manylion y penderfyniad

Tenant Involvement Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To consider the Customer Involvement Strategy. / I ystyried y Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sean Bibby yr adroddiad, a oedd yn pennu’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid. 

 

Roedd Gwasanaeth Tai Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am fwy na 7,300 o gartrefi ledled y sir, gan gynnwys llety anghenion cyffredinol a llety gwarchod. Er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r cartrefi hynny, roedd yn bwysig rhoi cyfle i gwsmeriaid rannu eu profiadau o ran y gwasanaethau hynny.

 

Daeth yr hen Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid i ben yn 2021 ac roedd y Cyngor wedi gweithredu strategaeth dros dro tra bo’r strategaeth ddrafft newydd yn cael ei datblygu a’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn cael ei gwblhau. Mae’r strategaeth ddrafft newydd yn nodi’r ymrwymiad i ymgysylltu â thenantiaid ac yn amlygu’r gwaith sydd ei angen i wella ein sefyllfa bresennol.

 

Roedd rhagor o waith wedi’i wneud er mwyn datblygu a chwblhau’r strategaeth lawn ac roedd yr adroddiad yn nodi’r prif fanylion. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: