Manylion y penderfyniad
Cracks in the Foundations Building Safety in Wales - Audit Wales Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Ystyried adroddiad Archwilio Cymru “Craciau yn y Sylfeini” a’r argymhellion o fewn yr adroddiad a sut caiff elfennau allweddol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 eu gweithredu yn Nghymru.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd fod Archwilio Cymru, yn ôl ym mis Awst 2023, wedi cyhoeddi adroddiad ar Reoli Adeiladu yng Nghymru o’r enw ‘Craciau yn y Sylfeini’ i ddeall pa mor dda yr oedd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cryfhau ac yn gwella gwasanaethau rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau yn dilyn Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn edrych ar yr holl Awdurdodau Rheoli Adeiladu yng Nghymru a sut yr oedd pob un yn paratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau a gofynion uwch y Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Roedd yn canolbwyntio ar gydnerthedd gwasanaethau presennol a chadernid systemau sicrwydd diogelwch adeiladau.
Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn rhoi trosolwg hanfodol ac yn codi pryderon nad oedd digon o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i wasanaethau Rheoli Adeiladu. Roedd yn awgrymu bod diffyg trefniadau cynllunio cadarn a phenderfyniadau clir ac adnoddau annigonol gan beri pryderon na fyddai cyfrifoldebau a gofynion newydd y Ddeddf 2022 yn cael eu bodloni fel y bwriadwyd yng Nghymru.
Gwnaed wyth argymhelliad gan Archwilio Cymru, roedd pedwar ohonynt wedi’u cyfeirio at LywodraethCymru a phedwar wedi’u cyfeirio at Awdurdodau Lleol. Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o adolygiad Archwilio Cymru, eu hargymhellion a’r ymateb i’r argymhellion hynny a’r camau oedd angen eu cymryd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol a gofynnwyd cwestiynau yngl?n ag ymateb y Cyngor i’r argymhellion, yn enwedig o amgylch gosod ffi a chynnydd ar amserlenni a oedd wedi’u hamlinellu yn atodiad 1.
PENDERFYNWYD:
Bod canlyniad adroddiad Archwilio Cymru yn cael ei nodi a bod y camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r pedwar argymhelliad a wnaed i Awdurdodau Lleol yn cael eu cefnogi.
Awdur yr adroddiad: Matthew Parry-Davies
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol: