Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 10)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried. Yn ôl cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, byddai mwy o fanylion yn cael eu rhannu gydag Aelodau ar yr ymgynghoriad gydag Undebau Llafur a chynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â Chyfarpar Diogelu Personol o dan y Gwasanaethau Stryd a Chludiant (darpariaeth gwasanaeth) a ddangosir fel amrywiad i’r gyllideb yn Atodiad 2. Cytunwyd hefyd y byddai swyddogion yn dod a’r mater i sylw Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi. Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf ar Setliad Terfynol Llywodraeth Leol a fydd yn cael ei rannu i holl Aelodau. Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad ynghyd â’r cynnig ychwanegol. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 10), fod y sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad; a (b) Bod llythyr yn cael ei anfon i’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru i amlygu effaith prinder llety fforddiadwy yn y sector yn y sector rhentu preifat ar gyllid yr awdurdodau lleol. |
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2024
Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: