Manylion y penderfyniad

Governance Update and Consultations

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad fesul paragraff i’r Pwyllgor, gan gynnwys cynnydd yn erbyn y cynllun busnes a datblygiadau cyfredol gan gynnwys Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun (SAB).

            Eglurodd Mr Middleman o Mercer fod datganiad SAB ar warged y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel y disgwyliwyd ac yn gyson â sut mae strategaeth ariannu’r Gronfa Bensiynau yn mynd i’r afael â gwarged sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd cyfraniadau yn hirdymor.  Mae’r datganiad yn codi gwrthdaro buddiannau posibl wrth osod cyfraddau cyfraniadau.  Eglurodd drwy’r strwythur llywodraethu cryf a’r deialog gyda’r prif gyflogwyr, mae’r Gronfa yn sicrhau bod unrhyw wrthdaro posibl yn cael ei reoli’n dda a’i ystyried gan y swyddogion a’r Pwyllgor.  Roedd elfennau allweddol eraill o’r datganiad yn cynnwys strategaethau buddsoddi penodol i gyflogwyr lle bo cyflogwyr yn gadael cronfeydd, a therfyniadau rhannol pan fo cyflogwyr yn diddymu rhan o’u hatebolrwydd.  Mae’r materion hyn yn llai perthnasol i’r Gronfa, yn bennaf gan fod mwyafrif cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd yn gyrff sector cyhoeddus ac nid oes disgwyl iddynt adael y Gronfa.  Ond, os bydd yn fater yn y dyfodol, caiff ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor.

            Nododd Mr Hibbert fod y Llywodraeth Ganolog yn anghywir i ystyried gwarged Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel modd o ostwng Treth y Cyngor ac fel pot o arian i’r Llywodraeth ei gyfeirio.  Nododd yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas â’r Llywodraeth yn dymuno peidio â chyfeirio cronfeydd o ran sut neu beth i fuddsoddi ynddo, ond i wneud awgrymiadau cyffredinol.  Roedd yn teimlo pe byddai’r Llywodraeth yn darparu amgylchedd lle y gall buddsoddiadau dyfu, bydd y Gronfa’n eu canfod ac yn buddsoddi ynddynt lle bo’n addas.

            Gofynnodd y Cyng Shallcross a yw’r ‘llinell’ rhwng gwarged a diffyg ariannol wedi symud i adlewyrchu maint cynyddol y pot sydd ei angen i ddarparu pensiynau ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.  Cadarnhaodd Mr Middleman pan ystyrir y strategaeth ariannu ac y gosodir y cyfraniadau, mae disgwyliad oes a’r boblogaeth yn heneiddio’n cael ei ystyried i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.  Nododd bod cyfradd y twf mewn disgwyliad oes yn gostwng ar hyn o bryd yn seiliedig ar y data diweddaraf, a fydd yn bwynt trafod i’w ystyried yn y prisiad nesaf a bydd yn cael ei ystyried yn ddiweddarach eleni fel rhan o’r adolygiad cyllid dros dro.

            Trosglwyddodd Mr Latham i Mr Turner a eglurodd y paragraff ar Gyfraith Sharia.  Eglurodd Mr Turner ei bod yn ddefnyddiol cael eglurhad o’r mater gan SAB ac er y disgwylir rhagor o gyngor, mae disgwyl na fydd llawer o effaith ar fuddsoddiadau’r Gronfa.   Mae’r pryderon o ran Cyfraith Sharia yn bryder ar gyfer pensiynau cyfraniadau diffiniedig yn bennaf a gellir cynnig dewisiadau buddsoddi sy’n cydymffurfio â Sharia yn y cynlluniau hynny.  Ond, nid yw’r datrysiad hwn yn berthnasol i sut mae cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn buddsoddi. Bydd eglurhad gan SAB a’r farn gyfreithiol yn darparu arweiniad defnyddiol yn y maes.

            Holodd Mrs McWilliam a yw Cyfraith Sharia erioed wedi’i ystyried fel rhan o ddewisiadau cronfa CGY y Gronfa, ac a ddylid ei ystyried.  Nid oedd Mr Turner yn ymwybodol bod hyn wedi bod yn rhan o ystyriaethau CGY yn y gorffennol ond gellir gwirio hynny.  Ni allai weld unrhyw reswm pam na ddylid ystyried hyn yn y dyfodol, a byddai ganddo ddiddordeb gweld a oes galw am hyn yn y Gronfa Bensiynau.

            Parhaodd Mr Latham, gan dynnu sylw at sylwadau’r Gweinidog o ran gostyngiad yn nifer y cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gyda digwyddiadau o amgylch y bwrdd i’w ddisgwyl cyn gynhared â’r Pasg.  Yn y Gr?p Pob Pensiwn Seneddol fe wnaeth y Gweinidog sylw am wybodaeth a sgiliau’r Pwyllgor.    Eglurodd Mr Hibbert fod y Gweinidog Llywodraeth Leol wedi nodi nad yw’n gweld pam y dylai gwybodaeth a sgiliau’r Bwrdd fod yn fwy na rhai’r Pwyllgor.

            Eglurodd Mr Latham y risgiau canlynol:

-       Risg 2 yn ymwneud â llywodraethu Pwyllgor, a byddai hyn yn cael ei drafod yn y sesiwn hyfforddiant yn y prynhawn ar ôl  y cyfarfod. 

-       Roedd Risg 3 yn cyfeirio at wrthdaro buddiannau ‘yn enwedig mewn Pwyllgor Cronfa Bensiynau’, ond roedd y newid mewn statws risg a nodwyd yn y papur yn sgil gwrthdaro buddiannau posibl o ran buddsoddiadau lleol, sy’n ymwneud â Mr Latham fel Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a Mr Ferguson fel Swyddog A151 mewn perthynas â’i rôl yn cymeradwyo buddsoddiadau lleol.  Y bwriad oedd sicrhau bod unrhyw botensial o ran gwrthdaro buddiannau yn ymwneud â buddsoddiadau lleol a allai effeithio ar gyllid Cyngor Sir y Fflint yn cael ei reoli’n briodol gan y Gronfa.

 

            Trosglwyddodd y Cadeirydd i Ms Murray a gyflwynodd rhywfaint o hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a pholisi drafft cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Eglurodd rhywfaint o’r cefndir yn arwain at gyflwyno canllaw Mawrth 2023 gan TPR sy’n berthnasol i Gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Nododd y gall profiadau bywyd amrywiol gyflwyno mwy o amrywiaeth i’r Gronfa, ond na ellir elwa o’r doniau a’r profiadau sydd gan yr unigolion hynny heb roi sylw i gydraddoldeb a chynhwysiant.  Eglurodd yr ymagwedd ar gyfer drafft y polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan nodi bod cyfyngiadau penodol ar gyfer Cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Y buddion allweddol ar gyfer Cronfeydd Pensiwn yw y gall Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant arwain at wneud penderfyniadau gwell er budd yr aelodau a’r cyflogwyr, ynghyd â gwell mewnwelediad ac empathi mewn penderfyniadau dewisol, a gwella cyfathrebu gydag aelodau a chyflogwyr.

            Mae canllawiau’r rheoleiddwyr yn nodi ffyrdd ymarferol o gynorthwyo cyrff llywodraethu i wella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.  Mae’r rhain yn cynnwys darparu hyfforddiant a pholisi penodol i’r gronfa sy’n nodi beth mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei olygu i’r Gronfa.  Mae drafft y Polisi’n defnyddio’n ymadrodd ‘mynediad cyfartal’ i gydnabod efallai y bydd gwahanol unigolion yn gofyn am wahanol gefnogaeth i sicrhau tegwch.  Mae drafft y polisi’n ystyried amrywiaeth ar ffurf nodweddion gwarchodedig, ond hefyd ar ffurf nodweddion ehangach fel cefndir economaidd-gymdeithasol, profiadau bywyd, addysg ac iaith.   Yn olaf, bwriad diffiniad arfaethedig y Gronfa o gynhwysiant yw creu amgylchedd lle y gall unigolion sy’n ymwneud â rheolaeth y Gronfa gyflawni eu llawn botensial drwy gyfranogi, drwy gael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

            Cyflwynodd Ms Murray enghreifftiau o heriau a chryfderau o ran darparu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i’r Pwyllgor, a’r hyn sy’n berthnasol yn benodol i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chronfa Bensiynau Clwyd, a’r camau nesaf a’r ystyriaethau ar gyfer y Gronfa.  Cyfeiriodd hefyd at adroddiad 2023 Adran Actiwari’r Llywodraeth ar y Bwlch Pensiynau rhwng y Rhywiau ar gyfer Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr. 

            Cadarnhaodd Mrs Carney y rhannwyd y polisi gyda CSFf cyn y cyfarfod a’i bod yn fodlon â’r drafft.  Nododd bod CSFf yn darparu hyfforddiant tuedd anymwybodol ar gyfer gweithwyr, ac efallai bod modd rhannu’r hyfforddiant gydag aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd.  Nododd hefyd y dylai mwyafrif y cyflogwyr gynhyrchu eu hadroddiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau eu hunain, ac awgrymodd y gellir ceisio mynediad i’r wybodaeth i fesur bwlch pensiynau’r Gronfa.  Cyflwynwyd archwiliad cyflog cyfartal CSFf i’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf, ac mae ar gael pe byddai’n ddefnyddiol i’r Gronfa.

            Fel Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau, nododd Mrs McWilliam ei bod wedi sylwi dros y blynyddoedd diwethaf, bod profiad a sgiliau Elaine Williams o weithio gyda’r henoed wedi gwella amrywiaeth y profiadau a’r wybodaeth o fewn y Bwrdd Pensiynau, yn enwedig o ran cyfathrebu.  Ychwanegodd bod gwaith cadarnhaol eisoes wedi’i gyflawni o ran y strategaeth gyfathrebu a bod y Bwrdd yn teimlo bod fideo ‘Deall eich Datganiad Buddion Blynyddol’ yn hynod ddefnyddiol.

PENDERFYNWYD:

a)    Bod y Pwyllgor wedi ystyried a gwneud sylwadau ar y diweddariad.

b)    Bod y Pwyllgor wedi adolygu a chymeradwyo’r Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd. 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2024

Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/02/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: