Manylion y penderfyniad

Investment Strategy Statement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

            Eglurodd y Cadeirydd fod y Gronfa wedi dilyn proses drylwyr wrth adolygu ei datganiad strategaeth fuddsoddi (ISS) gan gynnwys sawl sesiwn hyfforddi, a chytunwyd ar y polisi buddsoddi cyfrifol (BC) arfaethedig yn y Pwyllgor diwethaf. Ar ôl ymgynghori â chyflogwyr y cynllun, dosbarthwyd newidiadau arfaethedig i'r geiriad cyn y cyfarfod a daethpwyd â'r ISS dilynol i'r Pwyllgor i'w gymeradwyo.

Aeth Mr Turner o Mercer â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad hwn, gan amlygu na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan gyflogwyr mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar bolisi BC arfaethedig y Gronfa.  Diolchodd i'r Cynghorydd Swash am ei ymholiad yn y cyfarfod blaenorol ynghylch y datganiadau ymgysylltu, a ystyriwyd ar ôl y cyfarfod ac roedd y geiriad hwn bellach wedi'i egluro.  Gofynnwyd yn awr i'r Pwyllgor gymeradwyo fersiwn derfynol yr ISS hwn.

 

Eglurodd Mr Turner fod Swyddogion a Chynghorwyr wedi bod yn trafod adolygiad pellach i'r ISS.  Er nad oedd adolygiad ffurfiol tair blynedd o'r ISS wedi’i gynnal eto, mae'r Pwyllgor yn gallu cynnal adolygiad yn gynt lle bo'n briodol. Eglurodd Mr Turner y rhesymeg dros y cynnig hwn, a oedd yn cynnwys adolygu dyraniad asedau cyffredinol y Gronfa i:

-       Gwblhau cynllun i gyrraedd y dyraniad targed ar gyfer Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy PPC;

-       Sicrhau bod hyblygrwydd hylifedd yn ddigonol i fodloni galwadau cyfalaf y farchnad breifat ac anghenion llif arian parhaus;

-       Sicrhau bod lefel y cyfalaf yn gadarn i gynnal y rhagfantoli o fewn y Fframwaith Rheoli Arian Parod a Risg, o ystyried anwadalrwydd cynnyrch giltiau a newidiadau i reoliadau;

-       Parhau i wneud cynnydd tuag at nodau hinsawdd.

 

Yn ogystal, mae gan y Gronfa ‘sbardun’ ar waith i ysgogi adolygiad ffurfiol ac ystyried y posibilrwydd o leihau risgiau pan fydd lefel y cyllid yn cyrraedd 110%.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r sefyllfa ariannu wedi bod mor uchel â 108%, a gallai'r Gronfa gyrraedd y sbardun o 110% yn y tymor agos cymharol.  Byddai adolygiad o'r fath yn golygu cryn dipyn o waith gyda'r actiwari a gallai gymryd nifer o fisoedd.  Bydd adolygu'r sefyllfa nawr yn helpu'r Gronfa i achub y blaen ar hyn.

 

Bydd dadansoddiad ymchwiliol yn cael ei gynnal gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi mewn trafodaeth â Swyddogion a bydd yn cael ei gyflwyno yn sesiwn hyfforddi’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2024.

 

Eglurodd Mr Turner y byddai'r gwaith sy'n ymwneud ag adolygu'r agweddau hyn ar yr ISS yn cael ei amsugno gan y gyllideb bresennol, felly ni fydd unrhyw ofyniad cyllideb ychwanegol newydd ar gyfer hyn.

 

Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn cefnogi'r adolygiad yn llwyr, a'i fod yn gweld y sbardun o 110% nid fel targed meddal, ond fel targed caled a oedd yn gofyn am adolygiad o opsiynau priodol.

 

Gofynnodd y Cyng Swash i'r argymhellion ar gyfer yr eitem hon gael eu hystyried ar wahân.  Croesawodd y diwygiad i eiriad y polisi BC gan ddileu cyfeiriad at ‘ganran y cwmnïau’ ac yn lle hynny cyfeirio at ‘ganran y buddsoddiadau yn ôl gwerth’ i ddileu amwysedd ac amddiffyn y Gronfa rhag hapchwarae canrannau posibl. Fodd bynnag, nododd ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y polisi hwn yn y cyfarfod blaenorol nid yn unig oherwydd y geiriad hwn ond hefyd oherwydd nad oedd yn teimlo bod y rhan hon o'r strategaeth yn cymryd cyfrifoldeb y Gronfa i osgoi trychineb hinsawdd yn ddigon difrifol, ac felly teimlai na allai gefnogi’r strategaeth fuddsoddi hon.  Nododd hefyd fod y strategaeth yn cynnwys mesuriadau nad ydynt wedi’u diffinio eto, er enghraifft yn datgan y disgwyliad i “gwmnïau tanwydd ffosil gael strategaeth glir i gyflawni sero net erbyn 2025 neu 2030” heb ddiffinio meini prawf ar gyfer hyn.  Ei farn o hyd oedd bod derbyn y strategaeth fel y’i hysgrifennwyd ar hyn o bryd yn mynd ati’n weithredol i niweidio’r blaned a thrwy wrthod gwaredu’r swm cymharol fach sydd gan y Gronfa mewn llygrwyr tanwydd ffosil, mae’r Gronfa’n chwarae rhan fach ond gweithredol mewn cynhesu byd-eang, a bod y bygythiad hwn yn rhoi pensiynau aelodau mewn perygl sylweddol.  Teimlai felly y byddai pleidlais o blaid y strategaeth hon yn torri ei ddyletswydd ymddiriedol ac roedd yn bwriadu ei gwrthwynebu.  Fodd bynnag, roedd yn hapus i gefnogi'r ail argymhelliad.

 

Cynhaliwyd pleidlais drwy godi dwylo ar gyfer pob un o’r argymhellion hyn.

 

PENDERFYNWYD:

a)    Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo’r ISS terfynol.

b)    Bod y Pwyllgor yn nodi’r rhesymeg dros adolygu’r strategaeth fuddsoddi a chytuno i ddiweddaru cynllun busnes 2023/24 i gynnwys adolygiad o’r strategaeth fuddsoddi yn gynnar yn 2024.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/11/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Dogfennau Atodol: