Manylion y penderfyniad
Pooled Budget Agreement for Care Home Accommodation for Older People
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the work of the North
Wales Pooled Budget Group to meet the legal and policy requirements
of Welsh Governments for pooled budgets between local government
and the National Health Service.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i gynghori ar y dull rhanbarthol arfaethedig o gyflawni gofynion cyfreithiol y Cyngor mewn perthynas â sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“rheoliadau 2015”), a cheisio estyniad i ad infinitum y trefniant.
Ym mlwyddyn ariannol 2019-2020, sefydlwyd cyllideb gyfun ranbarthol heb rannu risg ar gyfer Gogledd Cymru a derbyniwyd cymeradwyaeth gychwynnol y Cabinet yn Sir y Fflint ar 16 Gorffennaf 2019. Roedd y trefniant ar waith o 1 Ebrill 2019 ac fe gytunwyd y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y trefniadau, felly’n gweithredu’r gronfa gyfun ar ran y partneriaid i gyd.
Eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod angen penderfyniad yn awr i barhau â’r trefniadau ar gyfer cronfa gyfun heb rannu risg (a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran chwe Chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) o ran y gwariant rhanbarthol ar swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n.
O ystyried gwerth y gronfa gyfun, roedd angen awdurdod y Cabinet i’r Cyngor ymrwymo i’r cytundeb a ddiweddarwyd i reoleiddio ein perthynas barhaus â’n partneriaid o ran sefydlu a gweithredu'r gronfa gyfun.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i fodloni gofynion Rhan 9 yn Neddf 2014 sy’n ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; ac
(b) Y rhoddir cymeradwyaeth i'r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, yn rheoleiddio gweithrediad a threfniadau llywodraethu mewn perthynas â’r gronfa gyfun nes y bydd angen terfynu’r cytundeb.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/03/2024
Dogfennau Atodol: