Manylion y penderfyniad
Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an annual update on the work
ongoing to mitigate Homelessness and support provided to rough
sleepers.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd bod Digartrefedd yn wasanaeth statudol sy’n parhau i wynebu pwysau sylweddol. Roedd ffactorau allanol fel yr argyfwng costau byw a chyflwr y farchnad dai yn cynyddu lefelau digartrefedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â digartrefedd ar gyfer pobl Sir y Fflint.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y gofyniad i gynnig llety a chymorth i bawb sy’n ddigartref ac mewn perygl o orfod cysgu allan yn parhau i fod yn her o ran capasiti ac o safbwynt ariannol. Mae heriau sylweddol yn y farchnad dai sector preifat yn lleol gyda llai o eiddo ar gael bob blwyddyn a sawl landlord yn gadael y farchnad, sydd yn ei dro yn creu digartrefedd wrth i eiddo gael eu rhoi ar werth a bod gofyn i denantiaid adael, ac ar yr un pryd roedd yn golygu bod llai o eiddo ar gael i gefnogi i atal digartrefedd.
Yn sgil newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd (Deddf Tai Cymru 2014) a chyflwyno unfed categori ar ddeg o Angen Blaenoriaethol ar gyfer Cysgu Allan a’r rheiny sydd mewn perygl o gysgu allan, llwyddwyd i gynnal y dull “peidio â gadael neb allan” a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig ac sydd bellach wedi sefydlu’r egwyddor yn gadarn ar sail gyfreithiol fel arfer safonol.
O ganlyniad, mae dyletswyddau llety wedi bod yn ddyledus i fwy o bobl ac mae hynny wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw ar letyau digartref sydd eisoes dan bwysau ac am gost sylweddol i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnig cipolwg ar ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer 2023 ac roedd yn cynnwys fersiwn ddrafft o’r Polisi Llety Digartrefedd i’w adolygu a’i gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a chefnogi’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Tai ac Atal; a
(b) Chymeradwyo fersiwn ddrafft y Polisi Llety Digartrefedd.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/03/2024
Dogfennau Atodol:
- Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy PDF 153 KB
- Enc. 1 for Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy PDF 181 KB
- Enc. 2 for Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy PDF 51 KB
- Enc. 3 for Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy PDF 182 KB