Manylion y penderfyniad
Annual Performance Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
The Annual Performance Report sets out an analysis of how well the Council has performed against our Well-being Objectives, Priorities and Sub-priorities at the end of the financial year 2023/24 of our Council Plan (2023-28). The Annual Performance Report also provides a summary of performance regarding other key areas of focus within the Council, i.e. Public Services Boards.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac egluro bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn nodi dadansoddiad a chrynodeb o sut mae’r Cyngor yn perfformio yn erbyn ei Amcanion, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau Lles ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 o Gynllun y Cyngor (2023-28).
Roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn darparu crynodeb o berfformiad yngl?n â meysydd canolbwynt allweddol eraill o fewn y Cyngor h.y. Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus,Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gydweithio i greu Cymru gynaliadwy. Mae’n nodi saith nod lles rhyng-ddibynnol i Gymru ac mae’n gofyn bod cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at bob un o’r rhain. Fe’i nodwyd yng Nghynllun y Cyngor (2023-28), a oedd yn diffinio’r blaenoriaethau a’r canlyniadau sefydliadol y gellir eu cyflawni.
Nododd y Prif Weithredwr rai o’r newidiadau allweddol i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a oedd yn cynnwys:
Adran 3 - yn flaenorol roedd yn alinio Blaenoriaethau’r Portffolio / Amcanion Lles gyda Chynllun y Cyngor. Mae hyn wedi’i dynnu’n awr ac yn nodi Blaenoriaethau / Amcanion Lles Cynllun y Cyngor.
Adran 3.1 - byddai’n darparu trosolwg lefel uchel o sut mae pob blaenoriaeth / is-flaenoriaeth yn ystyried y pum ffordd o weithio a’r saith nod lles (gwnaed ymarfer mapio yn ddiweddar gan y Portffolios i nodi hyn).
Adran 4 - meysydd o Berfformiad Uchel, yn cael ei dynnu.
Adran 5 - byddai’n awr yn darparu gwybodaeth o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer pob un o Flaenoriaethau / Is-flaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-28 yn hytrach na’r hyn a gyflawnwyd ar gyfer pob Portffolio. Byddai hefyd yn cynnwys crynodeb lefel uchel o adroddiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer pob Blaenoriaeth / Is-flaenoriaeth. Lle bo modd byddai’n cynnwys dolenni cyswllt i wybodaeth / straeon ar wefan neu dudalen Facebook y Cyngor sy’n berthnasol i’r Blaenoriaethau / Is-flaenoriaethau.
Byddai manylion llawn adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn, Cynllun y Cyngor mewn dogfen ategol i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol.
Adran 7 - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015- Bydd angen tynnu’r Pum Ffordd o Weithio gan fod cysylltiadau gyda’r Ddeddf yn cael eu hystyried yn Adran 3.1 ac Adran 5.
Adran 13 - Bydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn cael ei dynnu.
Croesawodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad diwygiedig a’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Newid yn yr Hinsawdd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2023/24, sy’n cynnwys ymgorffori Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023-28 yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol.
Awdur yr adroddiad: Emma Heath
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/03/2024
Dogfennau Atodol: