Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the budget estimate for 2024/25 and the implications of the Welsh Local Government Provisional Settlement which was received on 20 December.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif benawdau a goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

 

Yn y cyfarfod blaenorol, nodwyd bod y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn £33.187m gyda datrysiadau ariannu posibl o £22.097m gan adael cyfanswm o £11.090m yn weddill.  Cyhoeddwyd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr a gwahoddwyd unigolion i gyflwyno eu hymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 2 Chwefror.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun dros dro yn adlewyrchu cynnydd o 2.2%, sef y cynnydd canrannol trydydd isaf yng Nghymru, ac roedd hefyd yn is na chyfartaledd Cymru gyfan sef 3.1%.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r prif benawdau a oedd wedi arwain at gynyddu’r blwch yn y gyllideb i £12.946m ac fe nodwyd bod nifer o risgiau ac effeithiau gostyngiadau grant penodol yn weddill a allai gynyddu’r ffigwr hwn ymhellach.  Byddai dau weithdy cyllideb yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y mis cyn i gynigion cyllideb terfynol manwl gael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Chwefror.

 

Holodd y Cadeirydd am effaith y gostyngiadau ar y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a’r Grant Digartrefedd - Neb wedi’i Adael Allan.  Amcangyfrifodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effaith y grant cyntaf oddeutu £0.430m ac fe gytunodd i rannu cyfrifiadau ar gyfer y ddau grant a sut y byddent yn darparu ar eu cyfer o fewn y gyllideb.

 

Wrth rannu ei siom yngl?n â chanlyniad Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod angen camau gweithredu i rannu dewisiadau cyllidebol i gau’r bwlch a lobio Llywodraeth Cymru i gael setliad gwell ar frys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y cyd cyn y Nadolig wedi mynegi’r pryderon am y Setliad yn glir.  Rhoddodd sicrwydd bod sylwadau cadarn wedi cael eu gwneud mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol i adolygu’r fformiwla ariannu, fodd bynnag, roedd yn amlwg mai’r GIG a Thrafnidiaeth Cymru oedd prif fuddiolwyr y cyllid cenedlaethol.  Er bod y sylwadau yn parhau, dywedodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried anfon e-bost / llythyr brys at Aelodau’r Senedd yn mynegi anfodlonrwydd y Pwyllgor yngl?n ag effaith y fformiwla ariannu.  Awgrymodd hefyd y dylid gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol y Senedd i gyfarfod gyda phob Aelod Etholedig yn Neuadd y Sir.

 

Cynigiwyd yr awgrym i gyfarfod gydag Aelodau’r Senedd gan y Cynghorydd Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bod newid i’r fformiwla ariannu ar sail angen yn yr amser oedd ar gael yn annhebygol.  Dywedodd bod yr Asesiad Gwariant Safonol dros dro yn adlewyrchu cynnydd cyfartalog tybiedig o 6.8% i Dreth y Cyngor ar draws Cymru ac y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar weithio gyda Chynghorau eraill i herio’r dybiaeth honno a cheisio cynnydd mewn Cyllid Allanol Cyfun gan Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Healey am effaith caledi ar y Cyngor a oedd yn parhau i fod yn un o’r Cynghorau sy’n derbyn y swm lleiaf o gyllid yng Nghymru a’r angen am fformiwla cyllido sy’n fwy teg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Coggins Cogan, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y diweddariad dangosol a gynghorwyd gan LlC fel rhan o setliad 2022/23 yn rhagdybiaeth weithredol resymol a bod y newidiadau i setiau data yn y fformiwla hefyd wedi cael effaith andwyol ar Sir y Fflint.  Wrth ymateb i ymholiadau, dywedodd er bod y gost ychwanegol o gyfraniadau cyflogwyr at bensiynau athrawon wedi cael ei chadarnhau yn Natganiad yr Hydref gan y Gweinidog, roeddent yn parhau i aros am gadarnhad ffurfiol o’r cyllid hwnnw.  O ran ein Lleoliadau Tu Allan i’r Sir, byddai’r swm ychwanegol sydd wedi’i gynnwys yn y rhagolygon presennol yn cael ei fonitro’n agos er mwyn i’r effaith blwyddyn lawn allu llywio cynigion cyllideb i’w rhannu yng ngham nesaf y broses.  O ran costau comisiynu Gofal Cymdeithasol, roedd cymharu gyda chynghorau eraill Gogledd Cymru yn anodd oherwydd y mathau gwahanol o ofal oedd yn rhan o hyn.

 

Mewn perthynas â’r pwynt olaf, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at strategaeth y Cyngor i ymestyn ei ddarpariaeth gofal yn Sir y Fflint i leihau dibyniaeth ar gostau cynyddol gan ddarparwyr allanol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd ar effaith andwyol setiau data diwygiedig ar y cyllid ar gyfer Sir y Fflint, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn adlewyrchu’r angen i adrodd data CYBLD[1] yn fwy cyson ar draws Cymru ynghyd â chapio ffioedd cartrefi gofal.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge yngl?n â thynnu’n ôl o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, siaradodd y Cynghorydd Roberts am y goblygiadau amrywiol y byddai angen eu hystyried yn ofalus.   Cyfeiriodd hefyd at effaith penderfyniadau cyllid canlyniadol ac effaith amser newidiadau i setiau data.

 

Darparodd y Cadeirydd gyd-destun o ran effaith y gostyngiad parhaus mewn Cyllid Allanol Cyfun ar Dreth y Cyngor ynghyd â chostau cynyddol gwasanaethau dewisol.

 

Gan gyfeirio at yr heriau mewn perthynas â’r sefyllfa ariannol, galwodd y Cynghorydd Gina Maddison ar yr holl Aelodau i gefnogi’r gweithgor cyllid teg wrth ddatblygu cynllun gweithredu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson yngl?n â newid tueddiadau ariannol ar draws Cymru a dywedodd y gellid rhannu cynnydd y gweithgor cyllid teg gyda’r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst ei bod yn bwysig i nodi achos busnes y Cyngor yn glir er mwyn dangos annhegwch Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir y Fflint.

 

Yn dilyn y drafodaeth, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried yr adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, bod y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2024; a

 

(b)       Bod gwahoddiad brys yn cael ei anfon at Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol Lleol Llywodraeth Cymru a dau Aelod Seneddol lleol i fynychu cyfarfod gyda holl Aelodau Etholedig y Cyngor i drafod y pryderon mewn perthynas â’r Setliad Dros Dro.



[1]Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2024

Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: