Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 8) Report and Significant Variances.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna fwlch o £2.942m a oedd yn newid ffafriol o £0.728m ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 7.  Byddai hyn yn gadael balans ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid o £4.918m ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol.  Roedd y newidiadau i’r cyllidebau a gymeradwywyd ers mis 7 oherwydd dadgyfuno’r gyllideb dyfarniad cyflog (nid ysgolion) ar draws portffolios.  Rhoddwyd crynodeb o amrywiadau arwyddocaol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n codi a risgiau eraill a gaiff eu holrhain fel y manylir yn yr adroddiad.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £0.018 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.179 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Wrth bwysleisio’r angen i ddyfarniadau cyflog a bennir ar lefel genedlaethol gynnwys y cyllid priodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at ganlyniad yr adolygiad o gyflogau athrawon i’w gyhoeddi yn yr haf.  Dywedodd fod y Cyngor yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar risgiau eraill yn ymwneud â’r tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff a Storm Babet.

 

O ran Atodiad 1, gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am eglurder ynghylch costau gofal preswyl a gofal cartref cynyddol yn ystod y flwyddyn o dan Ardaloedd Lleol (Pobl H?n).  Mewn perthynas ag Atodiad 2, cyfeiriodd at y gorwariant yng nghyllideb Gadael Gofal a gofynnodd a oedd cyllid penodol y llywodraeth wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer plant ar eu pen ei hunain yn ceisio lloches.  O ran Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, gofynnodd am eglurder yngl?n â’r math o gostau glanhau oedd wedi cael eu hadolygu a’u lleihau o dan Ddarpariaeth Gwasanaeth.

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ofyn am ymateb gan y gwasanaethau hynny ac atgoffodd yr Aelodau i rannu cwestiynau penodol i wasanaeth gyda swyddogion ymlaen llaw, er mwyn gallu darparu atebion yn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am effaith amcangyfrifedig Storm Babet ar asedau eraill y Cyngor, eglurodd y Swyddogion Cyllid bod y ffigyrau yn y tabl yn adlewyrchu’r effaith ar adeiladau ysgol a llifogydd yn ogystal ag incwm Treth y Cyngor.  Fe wnaethant roi sicrwydd bod hawliadau ar y Gronfa Cymorth Ariannol Brys yn ceisio gwneud y gorau o’r effaith ar y Cyngor o fewn cyfyngiadau’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun ac roedd mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Yn dilyn cwestiwn pellach, darparodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wybodaeth am sut yr ymdrinnir ag eithriadau Trech y Cyngor a gyhoeddir yng nghanol y flwyddyn.

 

O ran Llywodraethu, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eglurder ynghylch y costau pensiwn untro, wedi’u hôl-ddyddio, o fewn Gwasanaethau’r Aelodau.  

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 8), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2024

Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: