Manylion y penderfyniad
Council Plan 2023 -24 Mid-Year Performance Reporting
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities and performance levels identified in the
Council Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Tai ac Asedau grynodeb o sefyllfa Canol Tymor y Cyngor yngl?n â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2023/24 gan ychwanegu bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targed ar hyn o bryd.
Ychwanegodd nad oedd yna gamau gweithredu coch ar hyn o bryd yn ymwneud â blaenoriaethau a gweithgareddau’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd yna nifer o fesurau oedd wedi eu graddio’n goch. Roedd y mesurau hynny o amgylch gwasanaethau digartrefedd a darparu rhaglen datblygu tai.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei bryderon yngl?n â dangosyddion/mesurau perfformiad oedd yn dangos statws COG coch. Dywedodd am y flaenoriaeth ar gyfer cymorth tai ac atal digartrefedd a gofynnodd pryd fyddai’r Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ar ba gamau oedd yn cael eu cymryd i wella perfformiad yn y meysydd a amlinellwyd o fewn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) at adroddiadau manwl oedd yn eistedd y tu ôl i’r adroddiadau perfformiad a’r cynlluniau gweithredu a oedd yn cael eu monitro a’u diweddaru’n rheolaidd. Hefyd, cyfeiriodd at yr adroddiad dewisiadau Digartrefedd a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, oedd yn amlinellu nifer o ddewisiadau a ystyriwyd gan y Cyngor i gynorthwyo gyda chynnydd mewn cyflwyniadau i’r gwasanaeth digartrefedd.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl darparu diweddariad i’r Pwyllgor ar leoliad canolbwynt digartrefedd newydd. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Ataliad) yn cynghori bod lleoliad wedi’i nodi a gobeithio y byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau lleol yn y flwyddyn newydd.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24 yn cael eu cefnogi;
(b) Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24 yn cael ei gefnogi; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2024
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: