Manylion y penderfyniad
Progress report on the Strategic Housing and Regeneration Programme 2 (SHARP2) and the Transitional Accommodation Capital Programme (TACP)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide updates on the Council’s
SHARP2 programme, changes to the Social Housing Grant (SHG)
programme, details the Welsh Government Transitional Accommodation
Capital Programme (TACP) allocation of £1.6 million in
October 2023 and progress on the acquisition of additional
homes.
Penderfyniadau:
Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol wedi darparu adroddiad ar ddarparu’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y canlynol:
- Darparu Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor;
- Newidiadau i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (GTC) ers yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (Medi 2023) a’r Cabinet (Hydref 2023);
- Dyraniad o £1.6 miliwn Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru; a
- Chynnydd ar gaffael cartrefi ychwanegol.
Roedd y rhaglen yn y cam cyntaf ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC). Roedd yna raglen 3 cam ar gyfer cymeradwyaeth, ond roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn falch o adrodd bod yr adborth a dderbyniwyd ar hyn o bryd yn gadarnhaol.
Ychwanegodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol bod yna sawl diweddariad i’r rhaglen gan gynnwys costau ychwanegol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer contractau mwy, ble yn anffodus roedd rhai o’r contractwyr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan achosi ailbrisio contractau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r costau ychwanegol ar gyfer Porth y Gogledd a Mynydd Isa a fyddai’n cynrychioli dros 150 o gartrefi newydd.
Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol hefyd yn adrodd ar Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru a anelwyd at geisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gynted â phosibl, yn bennaf yn targedu llety ar gyfer bobl ddigartref neu bobl mewn llety dros dro. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i gael cyllid hyd at £1.5 miliwn, a fyddai’n cael ei dargedu at ddod â 28 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin ei bod yn falch o weld cynigion ar gyfer Maes Glas ond dywedodd y dylai gael ei restru fel ‘Lôn Ysgol’ ac nid ‘Ffordd Ysgol’. Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai’n gwneud y newid angenrheidiol.
Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Dolphin pryd fyddai ymgynghori yn digwydd gyda Chynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai ymgynghori yn dechrau yn y flwyddyn newydd gyda phecynnau ymgynghori ffurfiol yn cael eu paratoi a’u darparu.
Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew a oedd yn realistig i’r 28 o dai gael eu cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024. Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn dweud bod sawl caffaeliad eisoes wedi eu cwblhau ac roedd yn hyderus y byddai’r 28 o dai yn cael eu cwblhau.
Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester beth oedd y statws o ran adolygiad Safle Garej Queensferry. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) bod pob safle garej wedi eu harolygu a’u hasesu. Ychwanegodd bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gynharach y llynedd yn dangos pa safleoedd garej oedd wedi eu blaenoriaethu ar gyfer dymchwel yn gyntaf. Roedd pob dewis yn cael ei ystyried, gan gynnwys creu mannau parcio ychwanegol a chreu gofod gwyrdd.
Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin os gallai’r Aelodau dderbyn copi o ganlyniadau’r adolygiad safle garej o fewn eu wardiau eu hunain. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) y byddai adroddiad diweddariad ar yr adolygiad safle garej yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dale Selvester a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynnydd ar ddarparu’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 2, Grant Tai Cymdeithasol, Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro a ‘Phrynu yn ôl’ ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2024
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol:
- Strategic Housing and Regeneration Programme 2 (SHARP2) under the Welsh Government (WG) Social Housing Grant (SHG) programme and the Transitional Accommodation Capital Programme (TACP) by WG PDF 121 KB
- Appendix 1 - Standards for Homes Delivered under the Transitional Accommodation Capital Programme (TACP), TACP Objectives PDF 82 KB
- Appendix 2 - How SHG, RCG and TACP can be used PDF 52 KB
- Appendix 3 - Welsh Government TACP 2023-2024 - Flintshire Priority Schemes Confirmation e-mail advice dated 13.10.2023 PDF 62 KB
- Appendix 3A - Details of schemes approved for TACP funding PDF 33 KB