Manylion y penderfyniad
Medium Term Financial Strategy (MTFS) and Budget 2024/25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To update on the latest position for the MTFS
and Budget 2024/25 in advance of receipt of the Welsh Local
Government Provisional Settlement.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 20 Rhagfyr.
Cyfeiriwyd y pwysau o ran costau diwygiedig a'r dewisiadau o ran lleihau costau hyd yma at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol drwy gydol mis Hydref, ac ar yr adeg honno yr oedd bwlch cyllido o tua £14.042 miliwn. Cyflwynwyd yr adborth o'r cyfarfodydd hynny i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Tachwedd. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd dau weithdy i Aelodau ar 5 a 10 Hydref.
Roedd yr adroddiad yn nodi’r newidiadau i ofyniad cyllidebol ychwanegol 2024/25 ers y sefyllfa ddiwethaf yr adroddwyd arni ym mis Medi. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed i nodi atebion i bontio'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb. Ar ôl derbyn y setliad dros dro byddai briff yn cael ei roi i'r Aelodau i roi gwybod iddyn nhw am yr effaith ar sefyllfa gyffredinol cyllideb 2024/25.
Er bod cynnydd wedi'i wneud, dylid nodi bod y Cyngor yn dal i wynebu
her fawr i nodi'r atebion sy'n weddill a fyddai'n ei alluogi i gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf y mae'n parhau i fynd i'r afael â hi ar fyrder.
Ategodd y Prif Weithredwr y sefyllfa lom ledled Cymru yn 2024/25. Gwnaeth sylwadau ar y gwaith cynllunio a oedd wedi dechrau ar gyflawni rhaglen strategol o drawsnewid gwasanaethau i sicrhau bod y Cyngor yn datblygu gostyngiadau o ran costau dros y pum mlynedd nesaf er mwyn diogelu ei sefyllfa ariannol barhaus yn y dyfodol a sicrhau ei fod yn cael ei baratoi ymhellach ar gyfer heriau cyllidebol anochel yn y dyfodol. Er bod y ffrydiau gwaith hynny i ddarparu cymorth ariannol o 2025/26 ymlaen, ni wnaethant gynorthwyo â'r heriau cyllidebol uniongyrchol ar gyfer 2024/25.
Nodwyd meysydd a allai ddod o fewn cwmpas y gwaith trawsnewid yn yr adroddiad. Nid oedd y rhestr yn hollgynhwysfawr a byddai ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol yn bwysig er mwyn sicrhau bod cyfle i gyfrannu a dylanwadu'n gadarnhaol ar y rhaglen weithgarwch a sicrhau ei bod yn cael ei datblygu'n amserol.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai'r pwysau newydd mwyaf oedd y cynnydd yng nghostau Prydau Ysgol am Ddim (yn ystod y tymor) yn ogystal â chynnydd yn y galw yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Mae bwlch o £11 miliwn yn weddill, ac ategodd sylwadau'r Prif Weithredwr a'r meysydd yr oedd angen edrych arnynt yn rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Strategol. Roedd pob portffolio hefyd yn edrych ar sut y gallen nhw gyflawni 5% o arbedion effeithlonrwydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn a nodi gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25; a
(b) Nodi'r cynnydd a wnaed a'r gwaith parhaus ar atebion cyllidebol sy'n parhau i gael sylw brys er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth 2024.
Awdur yr adroddiad: Kara Bennett
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2024
Dogfennau Atodol: