Manylion y penderfyniad
Flintshire Housing Need Prospectus
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide the annual update on the Council Housing Needs prospectus which allows the local authority to identify their priorities for Social Housing Grant as part of the WG Grant framework. The prospectus also provides a clear and concise summary of the housing need and demand.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod ar Lywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol (ALl) ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) wybod bod y prosbectws presennol wedi cael ei adolygu a bod drafft diwygiedig wedi cael ei ddatblygu i’w gymeradwyo. Nid oedd fformat a chynnwys y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd. Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol uwch am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad blynyddol ar brosbectws Anghenion Tai’r Cyngor er mwyn sicrhau, fel rhan o fframwaith Grantiau LlC, bod yr ALl yn nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol, yn ogystal â darparu crynodeb clir a chryno o’r angen a’r galw am dai.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i gynnig crynodebau pellach ar reoli cartrefi gweigion er mwyn darparu dadansoddiad pellach o eiddo lle nad oes llawer o alw amdanynt.
Roedd yr adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac ni chafwyd unrhyw sylwadau ar yr argymhellion. Sefydlwyd Gr?p Tasg a Gorffen i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cynnwys Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint; a
(b) Nodi bod angen adolygu Strategaeth Tai Lleol 2019-2024 y flwyddyn nesaf.
Awdur yr adroddiad: Paul Calland
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/10/2023
Dogfennau Atodol: