Manylion y penderfyniad
Flintshire Housing Need Prospectus
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
The report provides the annual update on the
Council Housing Needs prospectus which allows the local authority
to identify their priorities for Social Housing Grant as part of
the WG Grant framework. The prospectus also provides a clear and
concise summary of the housing need and demand.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawni’r Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y Prosbectws Anghenion Tai drafft a ddiweddarwyd.
Roedd Llywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol. Nid oedd fformat a chyswllt y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd. Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y byddai’r prosbectws yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r Cynllun Datblygu/Darparu Rhaglen a sicrhau bod cynlluniau yn cwrdd ag anghenion a blaenoriaethau a nodwyd, gan gynnwys cynnydd tuag at gwrdd â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at safle Depo Canton ym Magillt a gofynnodd a fyddai’r datblygiad bwriedig ar y safle hwn yn digwydd. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llunio ail-ddynodi mapio llifogydd nifer o flynyddoedd yn ôl oedd yn rhoi dynodiad i’r safle na fyddai’n bosibl ei ddatblygu. Roedd gweithrediad ffurfiol y mapio llifogydd wedi’i wthio yn ôl, felly yn y cyfamser, roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr i gynnal gwaith ymarferoldeb i ddarparu tystiolaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru bod y dynodiad yn anghywir a’i fod yn dechnegol amhosibl i oresgyn y materion llifogydd ar y safle. Roedd gwaith yn parhau ar asesu pa un a ellir goresgyn y materion yn dechnegol er mwyn dwyn cais ymlaen.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am gost ar gyfer defnyddio ymgynghorwyr, dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y cynnig mewn dull fesul cam felly os byddent yn dangos nad oedd yn dechnegol bosibl i symud ymlaen i ddatblygu’r safle yn y Depo Canton neu y byddai’n rhy gostus, yna gall y Cyngor roi’r gorau i ymgysylltu â’r ymgynghorwyr cyn symud ymlaen.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) yn cael ei hailagor a Llywodraeth Cymru yn gwahodd cais am arian. Gofynnodd faint oedd y Cyngor wedi ymgeisio amdano. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y Cyngor wedi ymgeisio am dros £2 filiwn i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y Sir a mwy na £3miliwn i gaffael anheddau gwag neu i gaffael cartrefi ble roedd gan y landlord denantiaid cyfredol y byddai gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu t? iddynt, ond gallent aros yn yr eiddo. Roedd y Cyngor wedi ymgeisio am ychydig o dan £10miliwn o gyfanswm mewn cyllid o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, ond roedd y dyraniad dangosol yn £1.6miliwn. Y flaenoriaeth oedd dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chaffael cyn eiddo hawl i brynu. Byddai gwybodaeth bellach ar y dyraniad terfynol ar gael o 30 Medi 2023.
Gofynnodd y Cynghorydd Pam Banks a oedd cyn eiddo hawl i brynu yn cael ei brynu ar raddfa’r farchnad. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol bod yn rhaid i eiddo gael ei brisio yn annibynnol er mwyn cael mynediad i’r grant gan Lywodraeth Cymru ac o fewn y prisiad hwnnw, roedd cyflwr yr eiddo wedi’i gymryd i ystyriaeth.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd Pam Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys Prosbectws Angen Tai Sir y Fflint drafft
a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r Strategaeth Dai Leol 2019-24 i’w
hadolygu y flwyddyn nesaf.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/09/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: