Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ychwanegu dwy eitem ychwanegol - diweddariad ar yr Adroddiad Archwilio Cymru ar Gartrefi Gofal Pobl H?n - Comisiynu Cartref Gofal yng Ngogledd Cymru ac Adfywio’r Fframwaith Gofal Cartref. Fe atgoffodd Aelodau bod sesiwn hyfforddiant ar Rianta Corfforaethol yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol ar Zoom a fyddai’n cael ei recordio. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu sicrwydd y byddai’r sesiwn ar Rianta Corfforaethol y diwrnod canlynol yn fanwl iawn ac y byddai’n nodi beth oedd Rhianta Corfforaethol ynghyd â beth oedd cyfrifoldebau’r Aelodau etholedig, ac wedi i’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol gael ei hadolygu, byddai gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal i gyd-fynd â’r hyfforddiant.
Awgrymodd y Cynghorydd Marion Bateman y dylai rhai o’r bobl ifanc gyfarfod y Cynghorwyr fel y gwnaethant rai blynyddoedd yn ôl. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y byddai pobl ifanc yn helpu i ddylunio’r gweithdai ac y byddent hefyd yn eu mynychu pan maent yn cael eu cynnal yn yr Hydref.
Gofynnodd yr Is-Gadeirydd fod dyddiad yn cael ei drefnu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd bod y bwrdd newydd wedi cael ei sefydlu rai misoedd yn ôl.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 27/10/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: