Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Community & Housing Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, gan ychwanegu bod dyddiadau cyfarfodydd o fis Medi 2023 wedi cael eu hychwanegu yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Roedd pob adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor hefyd wedi cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Ychwanegodd yr Hwylusydd y byddai hi’n cyfarfod â’r Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli dros yr haf i drafod adroddiadau’r dyfodol ac yn cysylltu gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadierydd i gyflwyno Rhaglen Gwaith fwy cyflawn i’w hystyried gan y Pwyllgor ym mis Medi.
Fe wnaeth yr Hwylusydd hefyd nodi statws y camau gweithredu a oedd yn deillio o’r cyfarfodydd blaenorol, a oedd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Bernie Attridge bod y cyfarfod hwn wedi dechrau am 2pm a gofynnodd a fyddai modd i’r Hwylusydd gadarnhau y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 10am fel y gofynnwyd yn flaenorol. Roedd y Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Linda Thew yn cytuno â’r cynnig i ddechrau cyfarfodydd y Pwyllgor am 10am. Cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn dechrau am 10am.
Soniodd y Cynghorydd Linda Thew am gyflwyniad ffurfiol cais cynllunio i symud ceiswyr lloches i hen westy yn Sir y Fflint a gofynnodd a fyddai mor darparu adroddiad i’r Pwyllgor yngl?n â’r math o lety a gynigir. Nododd bryderon mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol a diogelwch yn y llety arfaethedig.
Nododd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n rhaid iddo ddatgan diddordeb personol fel Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio os oeddent am drafod y cais cynllunio.
Ymatebodd yr Hwylusydd gan ddweud nad oedd hi’n credu y byddai’n briodol i’r Pwyllgor ystyried adroddiad yn ystod y broses gynllunio, ond nododd y byddai hi’n ceisio cyngor ffurfiol ac yn rhannu’r ymateb gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Pam Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 25/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: