Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education, Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee
and to inform the Committee of progress against actions from
previous meetings.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r eitemau a oedd yn cael eu cyflwyno i’r cydgyfarfod blynyddol gyda’r Pwyllgor Trosolwg a chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 29 Mehefin. Gan gyfeirio at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cadarnhaodd bod yna un newid, Adroddiad Blynyddol GwE a oedd nawr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn gobeithio dod â thair eitem ychwanegol i gyfarfod mis Gorffennaf, sef Ysgolion Iach, y Gwasanaethau Prydau Ysgol a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y materion TG o amgylch y seilwaith cenedlaethol a’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau. Gan gyfeirio at y Gr?p Tasg a Gorffen Parcio Ysgol, cadarnhaodd bod e-bost wedi’i anfon yn ceisio enwebiadau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Roedd y Cabinet yn cefnogi ffurfio’r Gr?p Tasg a Gorffen ond roedd yn awgrymu y dylai’r aelodaeth gynnwys nifer o feysydd ar draws Sir y Fflint a chynnwys ardaloedd gwledig a threfol. Roedd hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yn cysylltu ag Aelodau gyda gwybodaeth ar gyfarfod cyntaf y Gr?p Tasg a Gorffen ar ôl ei sefydlu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at yr ymateb a ddarparwyd i’r cwestiynau a godwyd ganddo yn ystod cyfarfod diwethaf ar adroddiad Datblygu Cynllun y Cyngor 2023/28 yngl?n â chyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol. Diolchodd i swyddogion am yr ymateb ond dywedodd nad oedd yn ateb y cwestiynau a godwyd ganddo. Eglurodd fod ei gwestiynau yn ymwneud â’r ffigyrau llinell sylfaen ar gyfer 2021/22. Roedd yr Uwch Reolwr (Cynnwys a Chynnydd) yn awgrymu ei bod yn darparu’r wybodaeth hon fel rhan o’r drafodaeth ar yr adroddiad Presenoldeb a Gwaharddiad yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: