Manylion y penderfyniad
Communities for Work
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the closure of the
Communities for Work programme across Wales following the end of
the European Structural Fund programmes.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac egluro bod y Rhaglen Cymunedau am Waith wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2016. Wedi’i hariannu gyda chymysgedd o adnoddau Ewropeaidd a LlC, roedd yn darparu adnoddau i lywodraeth leol yng Nghymru i gefnogi’r unigolion a oedd bellaf o’r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau cyflogaeth a dysgu drwy gefnogaeth mentora hirdymor. Gan fod y rhaglen yn cael ei hariannu gan gyllid Ewropeaidd, daeth i ben ar 31 Mawrth 2023.
Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd y byddai Sir y Fflint yn derbyn cyllid digonol gan LlC i barhau i ddarparu cefnogaeth Cymunedau am Waith a galluogi’r Cyngor i gadw’r tîm llawn o staff i wneud hynny.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a’r newidiadau a gyflawnwyd a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi’r wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi. Croesawodd y gefnogaeth gan LlC i barhau â’r ddarpariaeth am y 12 mis nesaf.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac awgrymu y dylid ychwanegu argymhelliad ychwanegol sef “bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r Rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau”, ac fe gefnogwyd hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod diwedd y rhaglen Cymunedau am Waith a’r trefniadau newydd i gefnogi pobl sy’n ddi-waith yn hirdymor yn cael ei ystyried a’i gefnogi; a
(b) Bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/05/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 02/06/2023
Dogfennau Atodol: