Manylion y penderfyniad
Flintshire Funds Impact Report 2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To share the Flintshire Funds Impact Report 2022 which has been produced by the Community Foundation in Wales (CFIW).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed gyda Chronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a Chronfa’r Degwm Deiran, ac roedd y ddau wedi cael eu gweld gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i Andrea Powell o Sefydliad Cymunedol Cymru a roddodd gyflwyniad byr ar y meysydd canlynol, fel yr atodwyd i’r adroddiad:
· Cyflwyniad
· Y wybodaeth ddiweddaraf yn cynnwys dosbarthu grantiau
· Hanes a Throsolwg o’r Gronfa
· Perfformiad Ariannol
· Astudiaethau Achos
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhoddwyd eglurhad ar aelodaeth y panel grantiau a dosbarthu dyfarniadau. Cadarnhawyd hefyd bod polisïau buddsoddi moesegol yn addasu yn y tymor hwy i gefnogi newid hinsawdd.
Croesawodd y Cadeirydd y cyflwyniad a’r astudiaethau achos sy’n cyd-fynd, a oedd yn tynnu sylw at y buddion i unigolion a grwpiau.
Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Paul Johnson a gyfeiriodd at waith ‘Emerge Community Arts’, un o’r grwpiau a oedd wedi elwa o grant.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried cynnwys Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2022, bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru.
Awdur yr adroddiad: Nicola McCann
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: