Manylion y penderfyniad
Governance & Audit Committee Self-Assessment
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the results of the Committee’s self-assessment which will feed into the preparation of the Annual Governance Statement. It will also form the basis for the provision of any further training required by the Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cadeirydd ganlyniadau’r hunanasesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr yn ystod gweithdy ar-lein yn dilyn cwblhau holiaduron. Byddai’r canlyniadau cyffredinol yn bwydo i mewn i baratoadau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y canfyddiadau o’r asesiad a’r camau gweithredu a nodwyd i fynd i’r afael â meysydd lle mae angen gwelliant.
Gofynnodd Allan Rainford am adnoddau Archwilio Cymru i ychwanegu sicrwydd ar gyflawni trefniadau sy’n rhoi gwerth am arian. Dywedodd Gwilym Bury nad oedd yna unrhyw gynlluniau cyfredol i newid trefniadau ar gyfer gwaith archwilio perfformiad.
Wrth ganmol yr ymagwedd a gymrwyd i’r gweithdy, dywedodd y Parch Brian Harvey mae maes allweddol oedd eglurder ar sut y gallai’r Pwyllgor ddylanwadu ar ddarparu gwasanaeth ar draws y Cyngor heb ddyblygu rôl y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd yn teimlo y gallai hyn gynnwys mwy o drafodaeth anffurfiol a hyfforddiant i alluogi’r Pwyllgor i gyflawni ei rôl.
Ar adrodd cyhoeddus effeithiol i fudd-ddeiliaid a chymunedau lleol i wella tryloywder, awgrymodd y Cynghorydd Bernie Attridge well defnydd o dechnoleg i wella ymgysylltiad cyhoeddus, er enghraifft ar osod y gyllideb.
Wrth grynhoi, dywedodd y Cadeirydd mai’r nod oedd i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer gweddill y flwyddyn yn canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian, ehangu ymgynghoriad cyhoeddus a thryloywder, dysgu gyda’n gilydd mewn dull anffurfiol, nodi ffyrdd i wella effaith ac effeithiolrwydd y Pwyllgor drwy adborth a sicrhau y dilynwyd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor drwy ymgysylltu gydag Aelodau Cabinet, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac Arweinydd y Cyngor.
Cynigodd ei bod hi a’r Is-gadeirydd yn datblygu cynllun gweithredu cryno o ganfyddiadau’r adroddiad a’r asesiad o fis Rhagfyr i ffurfio’r sail ar gyfer datblygu’r Pwyllgor yn y dyfodol. Cynigwyd ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorwyr Attridge a Banks.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac ar sail y drafodaeth, fod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn datblygu cynllun gweithredu cryno i symud camau gweithredu ymlaen i lywio datblygiad y Pwyllgor yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/03/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: