Manylion y penderfyniad
Void Management
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide a further update on voids
management and delivery.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad i roi diweddariad arall ar reoli a darparu unedau gwag.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer o heriau i’w goresgyn wedi bod dros y 24 mis diwethaf, oedd yn cynnwys y pandemig, Brexit a’r rhyfel yn Wcráin, a oedd wedi cynyddu pwysau wrth geisio cael gafael ar adnoddau i grefftwyr, deunyddiau crai ac wedi cynyddu prisiau a soniodd am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gyrraedd cerrig milltir allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn trafod y meysydd canlynol:
- Cyllideb
- Adnewyddu
- Gweithlu
- Trosolwg ac Adrodd
- Cydymffurfio
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd y gweithgareddau lleol oedd wedi’u cyflawni, gan ychwanegu bod y Tîm Rheoli’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd a pherfformiad ar y meysydd canlynol:
- Cyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Pontio
- Caffael Rhestr Brisiau newydd
- Caffael/tendro’r fframwaith newydd
- Caffael contractwyr newydd
- Adleoli swyddi adnoddau mewnol (Arweinwyr Tîm ac Arolygwyr)
- Hyfforddiant i’r Tîm Unedau Gwag
- Datblygu proses ddyrannu newydd
- Dod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol
- Edrych ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2 a datgarboneiddio
- Adolygiad llawn o fanylebau i safonau unedau gwag, i adeiladu arolygon safonol cadarn
- Sicrhau bod contractwyr yn cyrraedd meincnodau
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin yngl?n â chostau cyfartalog dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio a chymhariaeth hynny ag awdurdodau cyfagos, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod awdurdodau cyfagos fel arfer yn gwario rhwng £18,000 ac £20,000 ar eiddo gwag, ond tua £9,000 oedd y costau cyfartalog i Sir y Fflint. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ar faint o’r eiddo gwag oedd angen gwaith oedd yn costio mwy na £10,000 i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Croesawai’r Cynghorydd Dale Selvester yr adroddiad manwl. Croesawai hefyd fod yr holl Arweinwyr Tîm wedi dychwelyd i’r gweithle a bod gwaith recriwtio wedi’i wneud a dywedodd yr hoffai weld sut roedd y gwasanaeth wedi gwella yn sgil hyn. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu dadansoddiad data ar fanteision y swyddi ychwanegol mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Selvester hefyd a oedd contractwyr allanol yn cael gwybod beth oedd eu targedau perfformiad a pha fesurau oedd yn cael eu defnyddio os nad oeddent yn eu cyrraedd. Holodd hefyd yngl?n â’r amryw broblemau â deunyddiau a chyflenwadau oedd yn yr adroddiad gan ddweud ei fod wedi cael sgyrsiau gydag adeiladwr lleol oedd yn dweud nad oedd unrhyw broblemau mawr â chyflenwadau o ddeunyddiau fel ffenestri. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod contractwyr allanol yn gweithio i dargedau perfformiad a oedd wedi’u gosod. Er enghraifft, byddai contractwr bach yn cael 2 eiddo gwag a phan fyddent wedi gwneud 75% o’r gwaith, byddai rhagor o eiddo’n cael ei ddyrannu iddynt er mwyn cynorthwyo â llif gwaith a chynllunio at y dyfodol. Pe bai unrhyw gontractwr yn hwyr yn cwblhau eiddo neu os oedd problemau ag ansawdd, byddai’n effeithio ar ddyrannu eiddo iddynt yn y dyfodol. O ran deunyddiau, roedd yr adroddiad yn sôn am broblemau dros y 2 flynedd ddiwethaf yn ystod y pandemig ac roedd y rhan fwyaf o’r rhain bellach wedi’u datrys. Y bwriad oedd gweithio’n agos gyda chyflenwyr lleol i ddechrau cynyddu lefelau stoc a rhannu rhaglenni gwaith i’r dyfodol wrth symud ymlaen.
Gofynnodd y Cynghorydd Dave Evans a oedd cartrefi’n cael eu harchwilio’n rheolaidd er mwyn dod o hyd i broblemau cyn iddynt droi’n waith atgyweirio mawr pan fyddai’r adeilad yn wag. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod arolwg o gyflwr y stoc wedi cychwyn yn 2020 ond nid oedd modd cael mynediad i’r adeiladau yn ystod y pandemig. Byddai arolwg lefel uchel o gyflwr y stoc i asesu cartrefi tenantiaid yn cychwyn yn fuan, ond gydag unrhyw denant oedd yn y gorffennol wedi gwrthod mynediad i’w cartref, yn rhan o waith Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd rhaid cael mynediad i sicrhau bod ceginau ac ystafelloedd ymolchi’n ddiogel. Pan fyddai gweithiwr yn mynd i eiddo ac yn dod o hyd i bryderon, byddai’n rhoi gwybod am y rhain cyn gynted â phosib’. Roedd yn hyderus bod prosesau cadarn ar waith.
Mewn ymateb i bryderon a gododd y Cynghorydd Pam Banks ar waith atgyweirio eiddo yn ei ward hi lle’r oedd tenantiaid wedi bod yn disgwyl sawl blwyddyn, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Banks ar ôl y cyfarfod.
Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â Swyddogion Tai’n rhoi gwybod am faterion diogelu wrth fynd i mewn i eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Swyddogion Tai’n gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Plant i sicrhau eu bod yn cael gwybod am unrhyw bryderon heb oedi.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r gweithgarwch oedd wedi’i gynllunio a amlinellwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2022, y camau nesaf a’r cerrig milltir yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag fel yr oedd yn Atodiad 1; a
(b) Cefnogi’r cynigion i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 08/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: