Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i gael ei gynnal ar 10 Ionawr 2023 a soniodd am yr eitemau i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Rhoddodd yr Hwylusydd hefyd ddiweddariad ar gynnydd i drefnu gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i ystyried parcio y tu allan i’r ysgol.
Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill i’w cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen.
Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad am waith ar y gweill ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y bwriad o gynnal gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i fynd i’r afael â pharcio cerbydau y tu allan i ysgolion a gofynnodd a fyddai modd cynnal hwn cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Chwefror 2023. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y cyfarfod ar y cyd ym mis Chwefror i roi gwybod i’r Pwyllgorau Craffu am y sefyllfa bresennol a phennu ffordd ymlaen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: