Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2022/23 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 7, and projects forward
to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu
sefyllfa monitro cyllideb refeniw ddiweddaraf 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £0.094 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid anffafriol o £0.061 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 6
· Rhagwelir y byddai balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2023 yn £4.055 miliwn (ar ôl effaith y dyfarniad cyflog terfynol)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.321 miliwn yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.153 miliwn.
Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau yn 2022/23 ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim o fewn eu cyfnodau cymwys.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23; a
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 06/01/2023
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 117 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 103 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 142 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 18 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 45 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7) PDF 94 KB