Manylion y penderfyniad
Notice of Motion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cafodd y Rhybudd o Gynnig canlynol ei gyflwyno gan y Cynghorydd Richard Lloyd a’i eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.
“Diben y cynnig hwn yw gofyn i Gyngor Sir y Fflint fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor, sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae pobl sy’n byw â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr yn ei haeddu ac y dylen nhw ei ddisgwyl.
Mae’r Siarter Clefyd Niwronau Motor yn cynnwys 5 pwynt:
1. Yr hawl i wybodaeth a diagnosis cynnar.
2. Yr hawl i gael gofal a thriniaethau o safon.
3. Yr hawl i gael eich trin fel unigolion a hynny â pharch ac urddas.
4. Yr hawl i sicrhau bod eu hansawdd bywyd y gorau y gallai fod.
5. Mae gan ofalwyr pobl â Chlefyd Niwronau Motor yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, i gael rhywun yn gwrando arnyn nhw a chefnogaeth dda.
Drwy fabwysiadu'r Siarter Clefyd Niwronau Motor, mae'r Cyngor hwn yn cytuno i hyrwyddo'r Siarter a sicrhau ei bod ar gael i bob Cynghorydd, staff y Cyngor, sefydliadau sy’n bartneriaid a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor.
Byddwn ni’n codi ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor a sut beth yw gofal da ar gyfer y bobl sy’n byw â’r clefyd dinistriol hwn, fel y nodir yn y Siarter, ac yn gwneud popeth y gallwn ni fel Cyngor i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd bywyd pobl leol â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr sy’n byw yn ein cymuned”.
Wrth siarad ar y Rhybudd o Gynnig, esboniodd y Cynghorydd Richard Lloyd y rhesymau pam y cafodd ei gyflwyno i’r Cyngor a siaradodd am effaith ofnadwy’r clefyd ar ddioddefwyr a’u teuluoedd. Gofynnodd i'r Aelodau gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gofynnodd i'r Cyngor fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor a chodi ymwybyddiaeth i helpu pobl yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr argymhelliad canlynol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn yn unfrydol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei dderbyn a’i gefnogi.
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: