Manylion y penderfyniad
Flintshire’s Local Area Energy Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek endorsement of the Flintshire Local Area Energy Plan Main Report and Technical Report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad (eitem 9 ar y rhaglen) i dderbyn fersiwn derfynol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint ac argymell bod y Cabinet yn ei gymeradwyo.
Tynnodd y Cynghorydd Coggins Cogan sylw at anghywirdebau yn yr adroddiad. O ran argymhelliad 1, cafodd ei ddiwygiad arfaethedig bod y Pwyllgor yn nodi yn hytrach na chymeradwyo y dogfennau, ei eilio gan y Cynghorydd Shallcross.
Cafodd argymhelliad ychwanegol ei gynnig gan y Cynghorydd Coggins Cogan fod y Pwyllgor yn rhagweld neu’n disgwyl y bydd yr hydrogen a gynhyrchir y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn wyrdd, er mwyn bodloni amcanion newid hinsawdd, ac y byddent yn ceisio ymateb gan y Rheolwr Rhaglen petai yna unrhyw anhawster wrth gyflawni’r nod yma. Cytunodd y Swyddog Prosiect i drafod hyn gyda’r Rheolwr Rhaglen.
Yn dilyn yr awgrym am weithdy ar newid hinsawdd, fe gytunwyd y byddai’r Cynghorydd Allan Marshall yn trafod y briff posibl ar gyfer gweithdy o’r fath gyda’r swyddogion, gan nodi y gweithdai cyflwyniadol oedd ar gael i Aelodau.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint (Atodiad 1 a 2 yr adroddiad), gan ddeall bod y camau gweithredu sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir y Fflint yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol;
(b) Body Pwyllgor yn nodi cynnwys adroddiad yr Awdurdod Glo ‘Cyngor Sir y Fflint: Cyfleoedd i Adfer Gwres D?r’ (Atodiad 3) ar y cyd â Chynllun Ynni Ardal Leol; a
(c) Bod y Pwyllgor yn rhagweld neu’n disgwyl bod cynhyrchu hydrogen y cyfeirir ato yn adroddiad Cynllun Ynni Ardal Leol yn wyrdd, a cheisio ymateb gan y Rheolwr Rhaglen ar ddichonoldeb cyflawni’r nod yma, a bod adroddiad yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor os nad dyma oedd yr achos.
Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2025
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: