Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Budget 2025/26 - Welsh Local Government Provisional Settlement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide an update on the Council’s revenue budget position for the 2025/26 financial year.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem 6 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 yn cynnwys y goblygiadau yn dilyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Lleol Cymru.

 

Yn ystod trafodaeth, cafwyd eglurhad gan swyddogion yn dilyn amryw o gwestiynau, yn cynnwys craffu ar ddewisiadau terfynol y gyllideb cyn i’r Cyngor gyfarfod ym mis Chwefror.

 

Fe awgrymodd y Cynghorydd Coggins Cogan fod y Cadeirydd, Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd setliadau mynegol ar gyfer blynyddoedd i ddod.  Cafodd y diwygiad ei gynnig gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Ibbotson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Wedi ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26, bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y Cadeirydd, Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu llythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru er mwyn awgrymu'n gryf y byddai cael gwybod am setliadau mynegol aml-flwyddyn yn cael ei groesawu gan y Cyngor a gan Gynghorau eraill, er mwyn helpu i gynllunio ymlaen yn fwy effeithiol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: