Manylion y penderfyniad

Notice of Motion

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Rhybuddion o Gynnig canlynol wedi cael eu cyflwyno:

 

Rhybudd o Gynnig: Ystadau’r Goron

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Simon Jones y Rhybudd o Gynnig (adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd David Healey.

 

Yn ystod trafodaeth, cynigodd y Cynghorydd David Healey ddiwygiad y dylid gofyn i Lywodraeth y DU drosglwyddo cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau Cymru ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.  Eglurodd y Cynghorydd Simon Jones ei rhesymau dros wrthod y diwygiad a thynnodd y Cynghorydd Healey ei ddiwygiad yn ôl wedi hynny.

 

Cytunodd y Cynghorydd Simon Jones i gynnwys geiriad ychwanegol ar ‘welyau afon llanw’ o fewn cwmpas asedau Ystâd y Goron yn ei Rybudd o Gynnig.

 

Ar ôl pleidlais, cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig fel y’i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.      Bod Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch i ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron a’i hasedau yn cynnwys gwelyau afon llanw, yng Nghymru i Lywodraeth Cymru a bod yr arian sydd wedi cael ei godi yn cael ei rannu’n deg i Awdurdodau Lleol Cymru i gefnogi anghenion cymdeithasol y bobl sy’n byw yn ein cymunedau; a

 

2.      Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac Aelodau Senedd Cymru ac Aelodau Senedd San Steffan sy’n cynrychioli Sir y Fflint yn amlinellu ein cefnogaeth i berswadio San Steffan i ddatganoli Ystâd y Goron.

 

Rhybudd o Gynnig: Ardoll Agregau

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y Rhybudd o Gynnig adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fran Lister.

 

Cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.      Bod y Cyngor yn gwneud cais i Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor ysgrifennu at Mark Drakeford AS fel Aelod Cabinet Cyllid a galw ar Lywodraeth Cymru i drafod datganoli Ardoll Agregau gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd sy’n sicrhau bod yr awdurdodau lleol y ceir y mwynau ohonynt yn elwa’n uniongyrchol ac yn gyfatebol o’r Ardoll; a

 

2.      Bod y Cyngor yn cael cefnogaeth ar gyfer y dull hwn gan awdurdodau lleol eraill drwy ei aelodaeth o Weithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a thrwy sianeli priodol eraill.

 

Rhybudd o Gynnig: Addysgu Gartref

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Hilary McGuill y Rhybudd o Gynnig adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry fod llythyr wedi cael ei anfon gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2023 i gefnogi cael cofrestr ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref.  Darllenodd yr ymateb a oedd yn cadarnhau bod hyn ymysg nifer o ddewisiadau a oedd yn cael eu hystyried gan LlC i gryfhau’r fframwaith.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Cynghorydd McGuill y byddai’r sylwadau a godwyd gan Aelodau yn cael eu hadlewyrchu yn y llythyr i LlC.  Ar y sail honno, cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn gofyn bod llythyr pellach yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gysylltu â San Steffan i ddatblygu deddfwriaeth i gefnogi plant sy’n cael eu haddysgu gartref, gan gyfeirio at yr ymateb a roddwyd yn flaenorol gan Jeremy Myles AS, yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

  • Pwysleisio’r angen am gofrestr o’r holl blant o oedran ysgol sy’n cael eu haddysgu gartref yn cynnwys y rhai nad ydynt erioed wedi mynd i’r ysgol.
  • Cyflwyno system i bennu rhif adnabod unigryw i bob plentyn o’u genedigaeth, yn debyg iawn i Rif Yswiriant Gwladol, yn cynnwys plant sy’n preswylio yn y DU ar ôl genedigaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2025

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2025 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: