Manylion y penderfyniad

Joint Funded Care Packages - Update Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide an update on the latest position regarding outstanding Continuing Health Care invoices raised by the Council for payment by Betsi Cadwaladr University Health Board.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad (eitem 8 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Fe holodd y Cadeirydd am rai o’r ffigurau sydd yn yr atodiad ac fe dynnodd sylw at yr angen am gywirdeb.

 

Yn ystod trafodaeth am y llythyr oedd yn atodiad i’r adroddiad, cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson fod y Cadeirydd yn ysgrifennu unwaith eto at Jeremy Miles AS i fynegi siom y Pwyllgor gyda’r ymateb cychwynnol a cheisio rhagor o gymorth.   Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Coggins Cogan.

 

Yn dilyn y drafodaeth, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd grynodeb o’r pwyntiau a godwyd ac ar ôl pleidlais, cafodd y diwygiad ei basio.

 

Cytunwyd hefyd fod yr Uwch Reolwr a’i chydweithiwr yn cyfarfod y Cadeirydd i lunio’r llythyr er mwyn adlewyrchu’r sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn ymwneud ag anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

 

(b)       Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddiolch i’r Gweinidog am ei lythyr, ond i nodi nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â phrif bryderon y llythyr gwreiddiol a anfonwyd gan y Cyngor am y broses gymrodeddu, ac i geisio ei gymorth â chefnogaeth bellach wrth symud y broses yn ei blaen.

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: