Manylion y penderfyniad
Risk Management - Corporate Risk Register Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the Council’s Corporate Risk Register.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem 11 ar y rhaglen) i adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol oedd newydd ei llunio a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gofnodi risgiau sylweddol a allai effeithio ar amcanion a gweithrediadau strategol sefydliad.
Fe awgrymodd y Cadeirydd y gallai rhywfaint o’r geiriau yn yr adroddiad gael eu hadolygu a’u safoni.
Dywedodd y Cynghorydd Ibbotson nad oedd effaith newid hinsawdd ar draws y sefydliad yn cael ei adlewyrchu yn y ddogfen a bod angen cyfeiriad penodol at wytnwch ariannol y Cyngor a ffactorau allanol ehangach yn y gofrestr risg. Cytunodd y Prif Weithredwr i drafod gyda’r swyddogion perthnasol yngl?n â sut y gallai newid hinsawdd gael ei gynnwys. Ar yr ail bwynt, byddai’n trafod gyda’r tîm Cyllid i gynnwys naratif pellach yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol oedd newydd ei llunio’n cael ei nodi; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau o’r trefniadau ar waith i reoli'r risgiau sydd wedi'u manylu yn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.
Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2025
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: