Manylion y penderfyniad
Corporate Risk Register
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the Council’s Corporate Risk
Register.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol a’r Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) a oedd yn amlinellu’r broses o nodi ac asesu risgiau, gwerthuso eu canlyniad posibl, a’u lliniaru i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu cyflawni. Y nod oedd lleihau difrifoldeb eu canlyniad a pha mor debygol ydyn nhw o ddigwydd pan fo modd.
Cytunwyd bod yr adborth canlynol gan y Pwyllgor yn cael ei basio ymlaen at y Tîm Perfformiad:-
- Dim ond risgiau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor y dylid eu cyflwyno mewn adroddiadau yn y dyfodol; a
- Bod y risg - RCF09 - Buddsoddiad Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai - yn cael ei hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai a Chymunedau a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod adroddiad Cofrestr Risgiau Gorfforaethol y Cyngor, yn enwedig y risg
RHC09 – Adnoddau i Gwrdd â Rhwymedigaethau Digartrefedd, yn cael ei nodi; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau yngl?n â’r trefniadau ar waith i reoli risg RHC09 – Adnoddau i Gwrdd â Rhwymedigaethau Digartrefedd.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: