Manylion y penderfyniad

Audit Wales Report - Financial Sustainability

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cynghori ar yr adroddiad terfynol a gafwyd gan Archwilio Cymru.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.  Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.

 

Crynhodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y prif ganfyddiadau a dweud bod yr adroddiad cenedlaethol i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai gwybodaeth am brosiectau Trawsnewid yn cael ei rhannu gyda’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Rhagfyr.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol gan Archwilio Cymru.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: