Manylion y penderfyniad

Budget 2025/26 - Stage 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i’r Aelodau ei adolygu a rhoi sylwadau arno, a oedd yn sôn am bwysau o ran cost a risgiau cysylltiedig dan gylch gwaith y Pwyllgor.

 

Gan ymateb i gwestiynau am Wasanaethau Corfforaethol, byddai ymateb manwl yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor am gostau ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith goleuadau stryd.  O ran biliau ynni adeiladau corfforaethol, byddai swyddogion yn gweithio trwy ostyngiad posibl o ran gofyniad y gyllideb a fyddai’n cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau ar y gyllideb yn y dyfodol.  O ran gwahanu praesept Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, byddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ceisio cadarnhad o ran a fyddai’r Prif Swyddog Tân yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr.

 

O ran Llywodraethu, byddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ymateb ar wahân am y cais i gario £210,000 ymlaen o’r flwyddyn flaenorol, nad oedd wedi’i ddefnyddio’n llawn i ariannu’r swyddi a ddynodwyd.

 

O ran adroddiadau ar y gyllideb yn y dyfodol, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i Aelodau gyflwyno cwestiynau mwy manwl o flaen llaw er mwyn gallu darparu ymateb llawn.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bwysau cost y Gwasanaethau Corfforaethol yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet; a

 

(b)          Bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bwysau cost y Portffolio Llywodraethu yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum

Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: