Manylion y penderfyniad

Budget 2024/25 – Stage 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) er mwyn adolygu pwysau o ran costau a risgiau cysylltiedig ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid a chyllidebau ysgolion, o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Hysbysu Llywodraeth Cymru (LlC) o effaith y toriadau i gyllid ar gyfer ysgolion a cheisio ystyried newid rhai ffrydiau cyllid grant yn gyllid statudol;

·         Bod penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu hariannu’n llawn.

·         Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

·         Pwysigrwydd cynnal cyllid grant ar gyfer darpariaeth arbenigol i gefnogi disgyblion ag anghenion meddygol.

·         Cymorth i gynnal y pwysau o ran costau ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i unigolion cymwys yn ystod y gwyliau ac awgrymu bod modelau/ cyfleoedd amgen yn cael eu harchwilio gyda sefydliadau allanol a grwpiau gwirfoddol, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau i drechu tlodi plant yn ystod gwyliau’r ysgol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cytunodd yr Hwylusydd i ganfod pa Bwyllgor fyddai’n derbyn manylion am bwysau ychwanegol o ran costau ar gyfer llyfrgelloedd a hamdden, unwaith y byddai’r cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben. Yn ogystal, cadarnhaodd y byddai’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet.

 

Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysau o ran costau y portffolio Addysg ac Ieuenctid, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac yn cadarnhau y dylid dwyn ymlaen y pwysau o ran costau fel rhan o gyllideb 2025/26;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y pwysau o ran costau i Ysgolion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac yn cadarnhau y dylid dwyn ymlaen y pwysau o ran costau fel rhan o gyllideb 2025/26;

 

(c)        Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i amlinellu pryder y Pwyllgor ynghylch yr her i’r Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid mewn perthynas â’r ansicrwydd o ran ffrydiau cyllido Grant a gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i newid y ffrydiau cyllido grant hynny yn gyllid statudol yn y dyfodol; ac

 

(d)       Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref oherwydd anghenion dysgu ychwanegol, yn sgil cyflwr meddygol.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Dogfennau Atodol: