Manylion y penderfyniad
Intensive Housing Management Solutions for Homeless Accommodation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Ymgynghori ynghylch ymgysylltu â chwmni at ddibenion darparu gwasanaethau llety i bobl ddigartref ar gyfer hyd at 50 aelwyd sy’n profi digartrefedd.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i amlinellu’r model o wasanaethau rheoli tai dwys a ddarperir gan D2 PropCo ar gyfer llety i bobl ddigartref a buddion o ran costau drwy ymgysylltu â phartner ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Awgrymwyd pe byddai’r Cabinet yn cefnogi’r argymhellion, estynnir gwahoddiad i D2 PropCo i ddarparu cyflwyniad i’r Aelodau er mwyn darparu gwybodaeth am lwyddiant mewn Awdurdodau Lleol eraill ac i arddangos y gwasanaeth.
Byddai’r argymhellion / sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
O blaid yr argymhellion:-
Y Cynghorwyr: Tina Claydon, Geoff Collett, Rob Davies, Ron Davies, Rosetta Dolphin, David Evans, Dennis Hutchinson, Ted Palmer a Kevin Rush
Yn erbyn yr argymhellion:
Y Cynghorydd Alasdair Ibbotson
Ymatal
Ni chafwyd unrhyw un yn ymatal.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a wnaed i nodi darparwyr posibl ar gyfer gwasanaeth rheoli tai dwys ar gyfer llety i bobl ddigartref.
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel modd o brofi’r farchnad; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi dyfarnu’n uniongyrchol i D2 PropCo i ymgysylltu â nhw fel partner i ddarparu datrysiad rheoli tai dwys ar gyfer llety i bobl ddigartref.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2025
Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/11/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: