Manylion y penderfyniad
Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2023-24 and half-year complaints performance 2024-25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 – 30 Medi 2024.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i ystyried Llythyr Blynyddol 2023-24 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Cyngor, ynghyd â throsolwg o’r cwynion a ddaeth i law pob portffolio yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 30 Medi 2024.
Canmolodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ac Aelodau’r gwaith a wnaed gan y Rheolwr a’i thîm o ran cyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol yr adroddiad.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Nodi perfformiad blynyddol cadarnhaol y Cyngor mewn cysylltiad â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Nodi perfformiad hanner blwyddyn y Cyngor (2024-25) o ran cwynion a gafwyd, yn unol â pholisi Pryderon a Chwynion y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.25.
Awdur yr adroddiad: Rebecca Jones
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: