Manylion y penderfyniad
Flintshire County Summer Playscheme 2024
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2024.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Datblygu Chwarae adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ynghylch Cynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2024, a oedd yn tynnu sylw at gyflawniadau sylweddol, mentrau cyfredol a risgiau posibl, er mwyn sicrhau bod budd-ddeiliaid yn deall gwerth y rhaglenni hyn a phwysigrwydd eu cefnogaeth barhaus i’w llwyddiant. Bu iddo hefyd awgrymu cael sesiwn briffio Aelodau ar yr Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Darpariaethau Chwarae yn y Gymuned drwy gydol y Flwyddyn, er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd chwarae diogel, dan oruchwyliaeth i blant yn eu cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan galedi;
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen PlayPals: er mwyn hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno menter PlayPals i Ysgolion, sef rhaglen 6 wythnos o hyd sydd wedi’i llunio er mwyn awdurdodi plant gyda gwybodaeth am eu hawliau i chwarae a’u hannog i ddod yn llysgenhadon chwarae yn eu hysgolion a’u cymunedau; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol: er mwyn mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd chwarae i blant yn Sir y Fflint, drwy gefnogi’r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn ymdrechion eiriolaeth, mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan mewn digwyddiadau lleol. Trwy hynny, cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cynllun Cyfleoedd Chwarae Digonol cadarn ar gyfer 2025-2028, gan sicrhau bod chwarae yn parhau’n flaenoriaeth yn y gymuned.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2025
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol:
- Flintshire County Summer Playscheme 2024
PDF 132 KB
- Enc. 1 for Flintshire County Summer Playscheme 2024
PDF 41 KB
- Enc. 2 for Flintshire County Summer Playscheme 2024
PDF 83 KB
- Enc. 3 for Flintshire County Summer Playscheme 2024
PDF 146 KB
- Enc. 4 for Flintshire County Summer Playscheme 2024
PDF 70 KB