Manylion y penderfyniad
Capital Strategy including Prudential Indicators 2025/26 – 2027/28
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2025/26 – 2027/28 ar gyfer ei adolygu.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) ar y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn ei gyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2025/26 - 2027/28.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26 - 2027/28 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf; a
· Rhoi Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: