Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith bresennol a’r dogfennau OlrhainCamauGweithredu.

 

Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai’r adroddiadau blynyddol canlynol yn cael eu hychwanegu i’r Rhaglen Waith yn y cyfarfod:-

 

  • Rhaglen Grant Cymorth Tai
  • Digartrefedd
  • Cofrestr Tai Cyffredin

 

Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown i ychwanegu’r adroddiadau canlynol i’r Rhaglen Waith er ystyriaeth y Pwyllgor yng nghyfarfodydd y dyfodol:-

 

  • Rheoli Ystadau ac Eiddo - cynnwys cymdogaethau glân a thaclus, gwarchod ein buddsoddiad ac eiddo gwag, ac ail gyflwyno CYA ac arolygon rheoli tenantiaeth;
  • NEW Homes - papur dewisiadau ar gyfer manteision ac anfanteision cadw NEW Homes fel cwmni masnachu; a
  • Dewisiadau ar ailddynodi eiddo Tai Gwarchod nad oes galw mawr amdanynt

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau.

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Dogfennau Atodol: