Manylion y penderfyniad
Cost of Living and Welfare Reform
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w lliniaru.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) adroddiadi ddarparu gwybodaeth am effeithiau Diwygio’r Gyfundrefn Les, a’r argyfwng costau byw ar breswylwyr, a’r ystod o fesurau sy’n cael eu gweithredu i helpu’r sawl a effeithir arnynt er mwyn ceisio, pan fo’n bosibl, lliniaru’r effeithiau negyddol.
Argymhellodd y Cynghorydd Helen Brown argymhelliad ychwanegol, sef llythyr gan y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, i’w anfon at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.
Yn dilyn cwestiwn am y lwfans tanwydd gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) y byddai’n anfon dolen i wefan y Cyngor yn dangos gwybodaeth a lleoliadau canolfannau clyd ledled y Sir i’r Pwyllgor, ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les a’r argyfwng costau byw yn eu cael, ac y byddant yn parhau i’w cael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru a’r Cyngor i liniaru'r effeithiau
(c) Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: