Manylion y penderfyniad
Social Services Director's Annual Report 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Aelodau, sy’n cynnwys y datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24.
Roedd rhaid i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae’n rhaid i’r adroddiad blynyddol werthuso perfformiad yr awdurdod lleol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn adrodd. Dylai hefyd nodi amcanion mewn perthynas â hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd adroddiad 2023/24 yn dangos arferion a datblygiadau cadarnhaol, fel y nodir yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi ystyried yr adroddiad a'r blaenoriaethau ar gyfer 2024/25, sydd wedi llywio ei raglen waith.
Lluniwyd cynllun a dyluniad yr adroddiad gan Double Click, sefydliad ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 a’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/08/2024
Dogfennau Atodol: