Manylion y penderfyniad
Third Sector Grant Funding
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y trydydd sector; Cist Gymunedol a Chyllid Strategol. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar weithredu’r camau sy’n deillio o’r adolygiad diwethaf ar gyllid ac argymhellion ar gyfer camau nesaf.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r argymhellion a’r camau nesaf oedd yn ofynnol o hyd. Gwnaed yr argymhellion mewn perthynas ag adolygiad a gwaith pellach.
Rhannodd Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf, 2024.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar gyllid y trydydd sector, ynghyd â'r cynnydd a wnaed wrth weithredu adolygiad blaenorol;
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi adolygiad pellach o Gyllid Strategol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai y tynnwyd sylw atynt yn yr Archwiliad Mewnol diweddar. Gan nodi y dylid dewis ymestyn y cytundebau cyllid grant presennol tan 31 Mawrth 2027 fel bod digon o amser i gynnal a gweithredu’r adolygiad hwn; a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo parhad cynllun cyllid y grant Cist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i’w gynnal yn 2024/25, i gynnwys y cylch gorchwyl.
Awdur yr adroddiad: Nicola McCann
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/08/2024