Manylion y penderfyniad

Safeguarding Adults and Children's Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Rhoi gwybodaeth i Aelodau mewn perthynas â darpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant ar y cyd o fewn ffiniau’r sir.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth a’r Uned Ddiogelu yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r Uned Ddiogelu, ei swyddogaethau statudol a’r meysydd sy’n cael eu cynnwys yn y pum gwasanaeth.  Cyflwynwyd gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) hefyd, y gwaith ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Plant a’r cysylltiadau gyda’r Grwpiau Rhanbarthol. 

 

Yn dilyn cwestiwn am sicrwydd, awgrymodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) y dylid ychwanegu adroddiad yn amlinellu cryfderau a heriau’r Hwb Diogelu newydd at Raglen Waith y Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn cysylltiad â Diogelu Sir y Fflint  ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd; 

 

(b)     Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth; a

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn fodlon bod y Broses Ddiogelu ar gyfer Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint yn gadarn.

Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2024

Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: