Manylion y penderfyniad
Age Friendly Communities
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad darparodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n ac Arweinydd Lles a Phartneriaethau’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd datblygu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed yn Sir y Fflint. Darparwyd diffiniad o Gymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gydag amlinelliad o sut y rhennir ffocws cymunedau sy’n gyfeillgar i oed gyda’r holl adrannau a phartneriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried wrth ddylunio prosiectau.
· Gwaned cais i lobïo BT i geisio cyfradd wasanaeth is ar gyfer defnyddwyr data isel. Byddai hyn yn galluogi pobl h?n i fforddio prynu Gwasanaethau Rhyngrwyd a Llinell Dir.
· Gwnaed cais bod y Bws Dementia ar gael i’r Aelodau er mwyn iddynt brofi’r hyfforddiant a ddarperir.
· Gwnaed cais y dylid gwahodd y Tîm Heneiddio’n Dda i fynychu cyfarfod Cyngor Tref Cei Connah i drafod mentrau sy’n gyfeillgar i oed ymhellach.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint gan gynnwys y cais llwyddiannus am aelodaeth gyda Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd; a
(b) Bod y Pwyllgor yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a chydweithrediad parhaus i’r holl dimau gwasanaeth i gynorthwyo i ddatblygu Sir y Fflint fel lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: