Manylion y penderfyniad
Deferred Charges Audit Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y cynnydd yn dilyn yr Adroddiad Archwilio Taliadau Gohiriedig.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod archwiliad o ffioedd gohiriedig a rheoli atebolrwydd gofal preswyl mewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei gynnal fel rhan o raglen waith Archwilio Mewnol ar gyfer 2022/23.
Roedd Taliad Gohiriedig ond ar gael i unigolion a oedd yn derbyn gofal a chefnogaeth mewn cartref preswyl neu gartref gofal. Roedd yn gytundeb rhwng yr unigolyn a oedd yn derbyn gofal a’r Cyngor a oedd yn caniatáu ar gyfer gohirio neu oedi talu costau gofal tan ddyddiad diweddarach. Roedd y costau gohiriedig yn cael eu had-dalu yn y dyfodol.
Yn ystod yr Archwiliad Mewnol o’r broses Taliadau Gohiriedig bresennol, nodwyd wyth mater yr oedd angen gweithredu arnynt. Roedd pump ohonynt yn goch a thri ohonynt yn oren. Ers cwblhau’r adroddiad archwilio roedd y Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl wedi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen i fynd i’r afael â’r camau gweithredu a gytunwyd, roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud ochr yn ochr â gweithredu system meddalwedd cyllid newydd a fyddai’n cefnogi’r mesurau monitro a rheoli ychwanegol a nodwyd yn yr adroddiad archwilio.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y wybodaeth ar y camau gweithredu a gymerwyd ers cwblhau’r adroddiad Archwilio Mewnol yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr Aelodau yn derbyn sicrwydd bod y camau gweithredu sy’n weddill yn cael eu cyflawni o fewn y terfynau amser a nodwyd yn yr adroddiad archwilio a bod y cynnydd yn cael ei fonitro’n effeithiol.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol: