Manylion y penderfyniad
Destination Management
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Healey a darllenodd ddatganiad a oedd wedi’i baratoi ymlaen llaw.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod twristiaeth yn cynhyrchu cyfraniad blynyddol amcangyfrifedig o £325 miliwn i economi Sir y Fflint, gan gefnogi tua 3,300 o swyddi.
Roedd y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft wedi cael ei lunio ar y cyd â phartneriaeth eang o fusnesau ac asiantaethau partner er mwyn ymgymryd â dull cydweithredol o ran cefnogi datblygiad y sector economi ymwelwyr ac ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a fyddai’n cael eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle’r oedd y ffrydiau gwaith wedi cael eu harchwilio’n fanwl, gan ganolbwyntio ar y ffaith fod y Cyngor yn ddibynnol ar arian y gronfa ffyniant gyffredin, treth ar dwristiaeth, treth ar ail gartrefi a’r strategaeth toiledau.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi fersiwn ddrafft y Cynllun Rheoli Cyrchfan.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol: