Manylion y penderfyniad

‘Together we can’ Community Resilience and Self-Reliance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Darparu trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru ac amlinellu’r cynnwys a’r argymhellion.  Mae ymateb arfaethedig i’r argymhellion wedi’i gyflwyno i’w ystyried.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol”, oedd yn trafod sut y gallai meithrin cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol helpu i leihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol, pe bai awdurdodau lleol yn newid o fod yn ‘ddarparwr uniongyrchol’ i fod yn ‘alluogwr’.

 

‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ oedd y trydydd adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru mewn cyfres a oedd yn canolbwyntio ar dlodi a beth oedd llywodraeth leol yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu argymhellion a disgwyliadau Archwilio Cymru o ran camau nesaf awdurdodau lleol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r argymhelliad yn yr adroddiad yn galw am waith ar draws sefydliadau a chefnogaeth ariannol ar adeg pan oedd y Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol a byddai angen buddsoddiad parhaus er mwyn iddo fod yn llwyddiant.

 

            Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai a gynigodd argymhelliad pellach, sef  “Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith nifer o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar hyd a lled y Sir ac yn cyfleu hyn i’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin”.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod argymhellion o’r fath angen buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Diolchodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am yr argymhelliad ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol” yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod yr ymateb a argymhellir mewn perthynas ag argymhellion Archwilio Cymru yn cael ei nodi a chefnogi bod hyn yn cael ei adrodd i’r Pwyllgorau priodol ym mis Mehefin 2024.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/06/2024

Dogfennau Atodol: