Manylion y penderfyniad

Housing Strategy Action Plan Performance Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Darparu diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Tai 2019 - 2024 gan ganolbwyntio’n benodol ar y flwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd gan y Strategaeth Tai gynllun cyflawni a oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny:

 

  • Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir.
  • Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o
  • gartref.
  • Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod hwn yn adroddiad blynyddol a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau.  Atodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r blaenoriaethau i’r adroddiad.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod darpariaeth y gwasanaeth tai statudol yn cael ei hariannu drwy Gronfa'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi:

·         Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.

·         Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/06/2024

Dogfennau Atodol: